Tudalen:Yr Ogof.pdf/181

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nesaf. Amneidiodd ar ei glerc i ymgynghori ag ef, ac yna, fel petai rhyw weledigaeth ganddynt, nodiodd y ddau ar ei gilydd. Galwyd am osteg eto a chododd Pilat yntau ei law. Bu tawelwch disgwylgar.,

"Bob blwyddyn, ar Ŵyl eich Pasg fel hyn," meddai'r Rhaglaw, a siaradai'n glir a phwyllog yn awr, gan yrru pob gair i'r clustiau pellaf, "y mae'n arferiad gennym ollwng carcharor yn rhydd i chwi. Pa un a fynnwch? Ai Iesu Barabbas, ai Iesu a elwir Crist?"

Edrychodd y bobl ar ei gilydd yn ansicr. Yr oedd Barabbas yn derfysgwr peryglus, ac yn yr helynt, pan ddaliwyd ef wrth fur y Deml, fe laddwyd milwr Rhufeinig: y groes oedd y lle gorau iddo ef, rhag ofn iddo greu cynnwrf eto. Pob parch i'r Selotiaid gorwyllt hyn, ond heddwch, tawelwch amdani ar bob cyfrif: yr oedd gwrthryfelwyr fel Barabbas yn sicr o droi'r ddinas yn ferw bob cyfle, a chadwai hynny bobl—ac arian—o Jerwsalem. Na, i'r groes â Barabbas!

Troes Caiaffas i ddweud rhywbeth wrth yr hen Falachi, ac aeth hwnnw ar unwaith i ganol y Cynghorwyr eraill a'i dafod a'i ddwylo'n huawdl. Brysiodd amryw ohonynt i blith y bobl, ac ymhen ennyd llithrai'r gair Barabbas' drwy'r dyrfa fel su awel mewn hesg. Tyfodd y su'n glebar a'r clebar yn sydyn yn ysgrechau.

"Barabbas! Barabbas!"

"Bwrw hwn ymaith!"

"Gollwng Barabbas inni!"

"Nid hwn, ond Barabbas!"

"Barabbas!"

Yr oedd yr hen Falachi a'i gyd—Gynghorwyr wrth eu bodd, ond ymddangosai Caiaffas yn ddigyffro, heb arwydd o wên na boddhad ar ei wyneb. Gwelai Joseff y Rhaglaw'n rhythu'n ddicllon ar yr Archoffeiriad, ond ni chymerai Caiaffas arno sylwi ar yr edrychiad: dywedai ei wyneb dwys mai am gyfiawnder y llefai'r bobl.

Agorodd drws ar y dde a daeth morwyn hardd ei gwisg drwyddo ac ar hyd yr oriel. Ar ôl gair brysiog ag un o'r swyddogion Rhufeinig, moesymgrymodd o flaen Pilat a chyflwyno iddo dabled wêr mewn cas o ifori. Darllenodd y Rhaglaw'r neges a oedd arni, ac yna syllodd yn ffwndrus ar ei glerc ac ar y dabled bob yn ail. Wedi iddo'i throsglwyddo i'r