Tudalen:Yr Ogof.pdf/182

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

clerc, ymddangosai hwnnw hefyd mewn penbleth fawr ac edrychai'r swyddogion a'r milwyr ar ei gilydd yn anesmwyth. Islaw ar y Palmant tawelodd y dorf ac ymdaenodd sisial chwilfrydig drwyddi, ond daliai'r rhai a oedd tu allan i'r pyrth i weiddi "Barabbas!" yn wyllt.

Cododd Pilat ei ben a lledodd ei ysgwyddau mewn penderfyniad sydyn. Nodiodd ar y swyddog a ofalai am osteg, ac wedi i bob sŵn ddarfod, meddai'r Rhaglaw yn araf ac uchel am yr ail waith,

"Ni chefais yn y dyn hwn ddim bai. Am hynny, mi a'i ceryddaf ef ac a'i gollyngaf ymaith. Ef fydd y carcharor a ddewisaf i'w ollwng

Ond llyncwyd gweddill y frawddeg gan gynddaredd y dorf.

"Croeshoelia, croeshoelia ef!"
"Golgotha! Golgotha!"
"Y groes! Y groes!"
"Croeshoelia ef!"

Yr oedd cynddaredd yng nghalon Joseff hefyd fel y syllai ar yr wynebau gweigion o'i amgylch. Nid nepell oddi wrtho, rhuai'r dyn mawr glafoeriog a'i daran o lais yn saethu allan dawch o boer ar y rhai o'i flaen.. O, na ddeuai pererinion y Pasg i blith y dihirod hyn!

Am y drydedd waith amneidiodd Pilat am ddistawrwydd: bwriadai, yn amlwg, wneud un apêl arall. Nid arhoes am dawelwch llwyr y tro hwn ac edrychodd yn syth ar Gaiaffas a'r Cynghorwyr wrth siarad.

"Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo. Am hynny, mi a'i ceryddaf ef ac a'i gollyngaf yn rhydd."

Oernadodd y dyrfa fel bleiddiaid. Erbyn hyn ysgyrnygai llu ohonynt eu dannedd a chwifiai ugeiniau eu dyrnau'n wyllt.

"I'r groes! I'r groes!"
"Croeshoelia, croeshoelia ef!"

Gwgodd y Rhaglaw ar y môr o wynebau mileinig o'i flaen ac yna suddodd yn ôl ar ei orsedd yn ddig. Aeth ei glerc ato i gynnig rhyw gyngor, a nodiodd Pilat cyn amneidio ar un o'i swyddogion milwrol i roi gorchymyn iddo. Saliwtiodd hwnnw a throi ymaith. Arweiniwyd y carcharor ar hyd yr oriel ac allan o'u gwydd. Cododd Pilat a mynd i mewn i'r Praetoriwm.