Tudalen:Yr Ogof.pdf/183

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y mae'n ildio i'r cŵn," meddai Joseff.

"Ydyw," atebodd Nicodemus, gan blethu'i ddwylo'n nerfus. "Aethant ag ef i'w fflangellu. Y maent yn fflangellu bob amser cyn . . . cyn . . . " Ond ni ddôi'r gair "croeshoelio" i'w enau.

Tawelodd y dyrfa, gan ddisgwyl am sŵn y fflangell ac ysgrechau'r carcharor o'r cwrt gerllaw. Arhosent yn awchus, er gwybod mor ddieflig o greulon oedd y fflangell Rufeinig a'r darnau o haearn a phlwm ac esgyrn wedi'u clymu yn ei rheffynnau o ledr: gyrrai'r driniaeth hon lawer truan yn orffwyll, a threngai eraill yn ei harteithiau. Un, dau tri . . . caeodd Joseff ei lygaid a'i ddannedd yn dynn wrth wrando ar yr ergydion, a phlethai a dadblethai Nicodemus ei ddwylo yn ei fraw. Ysgydwai Caiaffas ei ben yn ddwys: gresyn hyn, meddai'i fiswrn o wyneb—ond anorfod, onid e?

Darfu'r ergydion, a'r bobl braidd yn siomedig: ni roddwyd iddynt ysgrechau nac ochain i wrando arnynt. A fu'r carcharor farw o dan y fflangell? Na, daeth hyrddiau o chwerthin gwatwarus o'r cwrt: yr oedd y milwyr yn cael hwyl am ei ben. Ceisiai'r dyrfa ymwthio ymlaen yn ei chwilfrydedd a brysiodd milwyr Rhufeinig a phlismyn y Deml i lawr y grisiau i'w hatal. Troes Caiaffas a'r Cynghorwyr a chodi dwylo pryderus i'w llonyddu, gan ofni rhuthr a phanig; yna syrthiodd y bobl yn ôl i'w lle wrth weld Pilat a'i glerc eto ar yr oriel.

"Wele," gwaeddodd y Rhaglaw, "yr wyf yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai." Yna, gan daflu golwg i'r chwith, "Wele'r dyn!"

Cododd gweiddi a chwerthin croch ar bob tu. Am y carcharor yn awr yr oedd gwisg borffor un o'r swyddogion Rhufeinig, a thrawyd ar ei ben goron ddrain. Gwthiodd y milwyr ef, er mai prin y gallai sefyll ac er bod chwys a gwaed yn ei ddallu'n llwyr, yn ôl at orsedd Pilat.

Gwyliai'r Rhaglaw y dorf yn graff: disgwyliasai y byddai'r olwg druenus ar y carcharor yn eu bodloni ac y gallai yn awr ei ryddhau. Ac am ennyd credai Joseff i'r cynllun lwyddo: cilwenai a chwarddai'r bobl ar ei gilydd, gan anghofio'u cri am y penyd eithaf. Ond troes Caiaffas at yr hen Falachi a'r Ileill, a buan y deffrowyd eilwaith lid y giwed o'u hôl.

"Croeshoelia, croeshoelia ef!"