Tudalen:Yr Ogof.pdf/184

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Edrychodd Pilat ar ei glerc mewn anobaith chwyrn, ar fin colli'i dymer yn lân.

"Cymerwch chwi ef," gwaeddodd tua Chaiaffas, "a chroeshoeliwch ef eich hunain: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo."

"Croeshoelia, croeshoelia ef!" oedd ateb y dorf.

Daliodd Caiaffas ei law i fyny am osteg, ac wedi iddo'i gael, "Y mae gennym ni gyfraith," meddai, "ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, gan iddo'i wneuthur ei hun yn Fab Duw." Mab Duw! Ai ofn a oedd yn llygaid Peilat? Taflodd olwg ar y clerc ac ar hyd yr oriel tua'r drws y daethai'r forwynig drwyddo. Dywedodd rywbeth wrth un o'i swyddogion cyn troi ymaith i mewn i'r Praetoriwm, a brysiodd hwnnw i roi gorchymyn i'r milwyr. Yna arweiniwyd y carcharor ar ôl y Rhaglaw.

"Edrychai Pilat yn ofnus," meddai Joseff.

"Gwnâi. Clywais ei fod yn ŵr ofergoelus iawn," sylwodd Nicodemus.

"Beth a oedd ar y dabled wêr 'na, tybed?"

"Neges oddi wrth ei wraig, efallai. Un o forwynion Procula oedd y ferch, yn siŵr i chwi. Ac efallai . . . "

"Efallai beth?"

"Efallai ei bod hi o'i blaid—wedi clywed am ei wyrthiau a'i ddysgeidiaeth."

Yr oedd Caiaffas a'r Cynghorwyr yn anesmwyth eto, a rhoesant arwydd i'r dyrfa o'u hamgylch i ailgydio yn eu bloeddio: llithrai'r amser ymlaen a chyn hir byddai pererinion. y Pasg yn llifo i'r ddinas o'r bryniau a'r pentrefi cyfagos.

Dychwelodd Pilat i'r oriel, a thawodd y bobl i wrando arno. Sisialodd Caiaffas rywbeth wrth yr hen Falachi.

"Wele, holais ef drachefn," meddai'r Rhaglaw, "ond ni chefais ynddo ddim bai. Mi a'i gollyngaf yn rhydd."

Daeth ateb ar unwaith—yn llais main yr hen Falachi. "Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Gesar. Pwy bynnag a'i gwnelo'i hun yn frenin y mae'n herio Cesar."

Bygythiad i achwyn arno yn Rhufain oedd hwn, ac aeth yr ergyd adref. Gŵr i'w gasáu oedd pob Rhaglaw Rhufeinig, ond gwyddai Pilat ei fod ef yn fwy amhoblogaidd nag un o'i ragflaenwyr. Ped ymunai gwŷr y Deml â'r Tetrarch Herod