Tudalen:Yr Ogof.pdf/185

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Antipas i yrru negeswyr at yr Ymerawdwr, byddai ei ddyddiau yng Nghanaan ar ben. Ildio iddynt a wnâi Tiberius: bellach mwynhâi'r hen Ymerawdwr henaint diog yn Ynys Capri, gan ddewis y ffordd rwyddaf allan o bob anhawster. Ac unwaith yr â'i Caiaffas a'i Sanhedrin ati i lunio cyhuddiadau i'w erbyn, byddai'r rhestr, fe wyddai'r Rhaglaw, yn un faith.

Eisteddodd Pilat ar ei orsedd unwaith eto, yn ŵr sur, wedi'i drechu. Amneidiodd ar swyddog i ddwyn y carcharor yn ôl i'r oriel, ac yna, â dicter yn ei lais,

"Wele eich Brenin," meddai

Yr oedd her a dirmyg yn y geiriau. Hwn, yn ei boenau a'i waradwydd, yn ei wisg borffor a'r goron ddrain am ei ben, oedd yr unig frenin a gaent hwy byth.

Corwynt o floeddio oedd yr ateb. "Ymaith ag ef! Ymaith ag ef!" "Croeshoelia ef!"

Wedi i'r llefau dawelu, saethodd y Rhaglaw un cwestiwn arall i gyfeiriad Caiaffas,

"A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi?"

Yr Archoffeiriad ei hun a atebodd y tro hwn. "Nid oes i ni frenin ond Cesar," meddai.

Dychrynodd hyd yn oed y bobl daeog hyn wrth glywed y fath gabledd o enau eu Harchoffeiriad. Er pan oeddynt yn blant, dysgwyd hwy mai Iafe oedd eu Brenin hwy. "Yr Arglwydd sydd Frenin byth ac yn dragywydd," a glywid beunydd yn y synagog ac yn y Deml.

Syrthiodd distawrwydd, ennyd, fel cwrlid tros y dyrfa. Yna o amgylch Caiaffas a'r Cynghorwyr, gan ymdaenu i bob cyfeiriad, cododd eilwaith y llefau chwyrn,,

"Ymaith, ymaith ag ef!" "I'r groes! I'r groes!" "Croeshoelia, croeshoelia ef!"

Chwiliodd llygaid Joseff am Heman ac Ioan a'r lleill. Safent draw yng nghefn y dorf yn syllu'n ddig o'u cwmpas, ac wylai'r bachgen Ioan Marc ar fraich ei dad. Diolchai Joseff nad oedd Simon Pedr gyda hwy byddai ef a'i gleddyf byrbwyll yn nwylo'r Rhufeinwyr ymhell cyn hyn.

Nodiodd Pilat ar ei glerc, a dug hwnnw'r warant iddo i'w harwyddo. Gan daflu golwg ffiaidd ar Gaiaffas, cydiodd y