Tudalen:Yr Ogof.pdf/186

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhaglaw yn yr ysgrifell a thorrodd ei enw'n ffyrnig o frysiog ar y memrwn. Yna galwodd un o'i swyddogion ato a rhoi gorchymyn iddo.

Yr oedd y dyrfa wrth ei bodd yn awr: oni chollodd Rhufain y dydd? Chwiliai'r dyn mawr glafoeriog yn foddhaus am le i boeri ar y llawr, a dywedai ei lygaid gweigion mai ei fuddugoliaeth bersonol ef oedd hon. A melys i ŵr bach y llediaith oedd gweiddi "To the Cross!" gydag arddeliad.

Dug gwas ddysgl arian i'r oriel. Cododd Pilat, a chyda threm herfeiddiol tua'r Archoffeiriad, golchodd ei ddwylo yn y dŵr a oedd ynddi. Syllodd y bobl yn syn a thawel, ac nid oedd yn rhaid i'r Rhaglaw godi'i lais wrth lefaru.

"Dieuog ydwyf fi," meddai, "oddi wrth waed y cyfiawn hwn edrychwch chwi."

Cilwenodd yr hen Falachi a'r Cynghorwyr eraill ar ei gilydd a deffroes hynny eto lid y creaduriaid o'u hamgylch.

"Bydded ei waed ef arnom ni," gwaeddodd un.

"Ac ar ein plant," llefodd arall.

Cydiodd ugeiniau o dafodau yn y geiriau, a hyrddiwyd y frawddeg o bob cyfeiriad tua'r oriel. Safai Pilat yn berffaith lonydd a'i wyneb yn welw gan ddirmyg: yna, heb air arall, troes a brysio ymaith.

Troes yr Archoffeiriad hefyd ymaith tua phorth bychan ar y dde. Ymddangosai'n ddwys a difrifol iawn: onid oedd hi'n ddarpar—ŵyl ac yntau'n hwyr i'w orchwylion sanctaidd yn y Deml? Heddiw yr aberthid Oen y Pasg.