Tudalen:Yr Ogof.pdf/187

Prawfddarllenwyd y dudalen hon


X



FYNY yn Nhŵr Antonia llusgai'r bore heibio i Longinus. Wedi'r parêd a'r ymarfer plygeiniol aethai ef, fel llawer canwriad arall, ar orymdaith gyda'i reng o filwyr i lawr heibio i'r Deml a thrwy lawer o heolydd troellog y ddinas. Arddangosfa o nerth ac awdurdod milwrol Rhufain oedd hon, ffordd o roi gwybod i'r Iddewon anesmwyth hyn mai doeth iddynt oedd ymgadw rhag unrhyw gynnwrf.

Ond llusgo a wnâi'r amser wedyn. Yr oedd ei wŷr yn awr yng ngofal Marcus, un o'i filwyr hynaf, ac yntau'n anniddig yn ei segurdod. Treuliasai awr yn ymddiddan â rhai o'r canwriaid eraill, pob un yn unfarn ynghylch adloniant a merched Jerwsalem, ac yna aethai i'w ystafell i geisio darllen tipyn. Tynnodd allan ròl yn cynnwys cerddi Lucretius, un o'i hoff feirdd, ond crwydro a wnâi'i feddwl er ei waethaf. Syllodd draw tua Mynydd yr Olewydd a'i bebyll aneirif a'r ffordd tua Bethania a Jericho yn rhimyn gwyn tros ei ysgwydd. Heno, dechreuai gŵyl grefyddol y bobl hyn a byddent oll yn Yn bwyta'u swper sanctaidd ac yn canu mawl i'w Duw. nyfnder enaid Longinus yr oedd dyhead am ryw sicrwydd fel yr eiddynt hwy. Ni allai addoli Rhufain, fel llawer o'i deulu a'i gyfeillion, na'r Ymerawdwr na'r cannoedd o dduwiau yr ymgrymai ei gydgenedl iddynt. Pob parch i'r Duw Jupiter, ond os oedd chwarter y chwedlau am ei helyntion caru yn wir . . .! Pob parch hefyd i oraclau Apolo ac i ddefodau rhodresgar Cybele, Mam y Duwiau, ac i'r temlau lle'r oedd cannoedd o gaethferched yn ddim ond puteiniaid dan enw rhyw dduw neu'i gilydd, ond anrheithiwyd ei ffydd yn y pethau "sanctaidd" hyn byth er pan ddechreuasai ddarllen gwaith y Groegwr Plato. Ac yn awr wedi iddo ddyfod i'r wlad hon a chyfarfod gwŷr fel Othniel, ni wyddai beth a gredai. Dim byd, efallai. Nid oedd hynny o grefydd a oedd ynddo ond amheuon a chwestiynau'n troi a throi yn eu