Tudalen:Yr Ogof.pdf/19

Gwirwyd y dudalen hon

"Na," oedd yr ateb breuddwydiol. "Y mae arnaf ofn fy mod i'n Pharisead yn hynny. Ac mewn llawer o bethau eraill hefyd. Fel hwythau, credaf yn y Meseia."

"Ond . . ."

"Ie?"

"Pa siawns sydd gan genedl fach fel eich un chwi yn erbyn Rhufain? Heb fyddin, heb arfau, heb arweinwyr milwrol." "Dim siawns o gwbl, Longinus. Ond y mae pethau sy'n gryfach na byddinoedd ac arfau."

"A'r rhai hynny?"

"Ein Duw a ffydd ein cenedl ynddo."

Cymerodd Othniel rôl oddi ar silff gerllaw iddo a throi ei dalennau nes dod o hyd i'r un a geisiai.

"Hoffwn i chwi wrando ar y gerdd hon, Longinus," meddai. "Ceisiaf ei chyfieithu i Roeg fel yr af ymlaen."

"Gan un o'ch hen feirdd?"

"Ie. Proffwyd o'r enw Eseia. Yr oedd ef yn byw pan oedd byddinoedd Asyria yn llifo tros y wlad. Ond er y gormes a'r anobaith, credai ef y deuai eto ryddid a chyfiawnder drwy'r tir a brenin fel Dafydd i'w orsedd yn Jerwsalem. Nid digon hynny i Eseia. Dylifai cenhedloedd y byd i addoli Iafe, ein Duw ni."

"Yn Jerwsalem?"

"Ie. Dyma'r darn:

A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant,
Deuwch ac esgynnwn i fynydd yr Arglwydd, i dŷ Duw Jacob;
ac efe a'n dysg ni yn ei ffyrdd,
a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef:
canys y gyfraith a â allan o Seion
a gair yr Arglwydd o Jerwsalem.
Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd
ac a gerydda bobloedd lawer:
a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau
a'u gwaywffyn yn bladuriau:
ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl
ac ni ddysgant ryfel mwyach.'

"Gweledigaeth gain, Othniel," sylwodd y canwriad. "Ac eofn."