Tudalen:Yr Ogof.pdf/191

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Un llymaid bach arall. Dim ond llymaid cyn cyshgu tipyn. Fy ngwin i wedi gorffen. Bob diferyn. A gwin y Canwriad Fflaviush yn yr ystafell neshaf imi. Ond Fflaviush ddim yn gwybod hynny! He, he, he! Arno ef yr oedd y bai am adael ei gostrel ar y bwrdd. Gwin da, hefyd. Pob parch i Fflaviush! He, he, he!"

Ymestynnodd am y gostrel, ond cipiodd Longinus hi ymaith.

"Cawsoch ddigon, Sextus. Ewch i gysgu am ryw awr. Dof gyda chwi i'ch ystafell os mynnwch."

"O'r gorau, Longinush. Longinush a fi yn ffrindiau mawr. Longinush yn gyfaill calon. Ond un llymaid bach. Dim ond y blash. Hanner cwpanaid."

Ysgydwodd Longinus ei ben.

"Dewch, Sextus."

"Chwarter cwpanaid. Help i gyshgu."

"O, o'r gorau, chwarter cwpanaid a dim diferyn mwy."

Cydiodd y dyn yn y bwrdd ag un llaw a daliodd y cwpan yn y llall. Pan dywalltai'r gwin, sylweddolodd Longinus fod drws yn agored a rhywun yn sefyll ynddo. Rhoes y gostrel yn frysiog ar y bwrdd a saliwtiodd. Ceisiodd Sextus hefyd saliwtio a'r cwpan o hyd yn ei law, ond collodd ei gydbwysedd a syrthio'n ôl yn drwsgl i'r gadair. Pennaeth Caer Antonia, y Llywydd Proclus, a oedd yn y drws. Camodd i mewn i'r ystafell, ac wedi ymdrech ddewr llwyddodd Sextus i gael ei draed dano ac i aros arnynt, trwy gymorth y mur.

Cymerai'r Llywydd Proclus hynt weithiau drwy'r gaer i daflu golwg feirniadol i mewn i ystafelloedd y swyddogion, ac ar rawd felly yr oedd yn awr. Daeth yn syth at Longinus, heb gymryd sylw o'r llall.

"Wel, Ganwriad?"

"Wel, Syr?"

"Nid oedd eisiau llawer o ddychymyg i weld i'r Canwriad Sextus gael mwy na'i gyfran o win."

Ni ddywedodd Longinus ddim: beth a oedd i'w ddweud? "Nid atebwch, Ganwriad?"

"Y mae'n ddrwg gennyf, Syr."

Symudodd Sextus at y gadair, ac ag un llaw ar ei chefn, safai'n weddol ffyddiog.

"Shyr?" meddai'n wylaidd.