Tudalen:Yr Ogof.pdf/192

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie?"

"Arnaf fi yr oedd y bai. Fe geishodd y Canwriad fy nghadw rhag yfed. Ei orau glash, Shyr. Ond nid awn ymaith heb ddiferyn arall. Arnaf fi yr oedd y bai. Yn llwyr, Shyr."

Edrychodd y Llywydd yn ddirmygus arno.

"Credais imi roi gwaith arbennig i chwi heddiw, y Canwriad Sextus."

"Do, Shyr."

"Hm. Yr ydych mewn cyflwr da ar ei gyfer."

"Ydwyf, Shyr . . . Dyna pam y bûm yn yfed, Shyr."

Ni ddeallai'r Llywydd Proclus. Edrychodd braidd yn ddryslyd ar Longinus.

"Y mae'r gwaith yn . . . yn anfelys iddo, Syr," eglurodd yntau. "Ceisiodd ei anghofio trwy yfed.'

Gŵr caled oedd Proclus, un a wnaethai enw iddo'i hun fel ymladdwr beiddgar yng Ngermania ac yng Ngâl yr oedd rhyw feddalwch fel hyn yn ddirmygus i'r eithaf ganddo. Gwneud dynion oedd gwaith y Fyddin, ac ynddi hi nid oedd lle i ryw deimladau merchedaidd. Tybiodd iddo glywed cydymdeimlad â'r llwfrgi yn llais Longinus.

"Efallai, y Canwriad Longinus, yr ystyriwch chwithau ddull Rhufain o drin dihirod yn . . . yn—anfelys?" Dywedai'r gair olaf â gwên goeglyd.

Nid atebodd Longinus. Yr oedd geiriau gwyllt ar flaen ei dafod, ond gwyddai mai doeth oedd tewi.

Bu distawrwydd annifyr rhyngddynt. Disgwyliai'r Llywydd Proclus ateb, ac oedai'r olwg wawdlym fel her ar ei wyneb.

"Wel, Ganwraid?"

Ond achubwyd Longinus rhag ateb. Daeth rhyw weledigaeth i feddwl niwlog Sextus a chamodd ymlaen i'w rhoi mewn geiriau. Anghofiodd, er hynny, mai ansefydlog oedd. ei gorff heb bwys ei law ar y gadair: chwifiodd ei ddwylo'n wyllt, ac oni bai i Longinus gydio ynddo, ar ei wyneb yr aethai. Angorwyd ef eilwaith wrth y gadair.

"Ymddengys i mi," meddai'r Llywydd Proclus, "fod angen rhywun i ofalu am y Canwriad Sextus y bore 'ma. Yr wyf yn eich penodi chwi, y Canwriad Longinus."

"Syr?"