Nid ymddangosai Sextus yn gadarn iawn ar ei farch, ond ceisiai ymsythu'n urddasol er hynny.
"A, Longinush! Barod?"
"Ydym, mi gredaf. Gorau po gyntaf y cychwynnwn, onid e?"
"Ie. Varush! Gratush!"
Brysiodd dau o'i filwyr ato.
"Cychwynnwn! Cychwynnwn!" "O'r gorau, Syr."
"A'r chwip! Chwip i minnau!" "Dyma hi, Syr."
Cymerodd Sextus y chwip a'i chlecian yn yr awyr fel bachgen yn chwarae â thegan. Yna,
"Yr herald! Yr herald!" gwaeddodd.
Daeth un o swyddogion y Rhaglaw ato a chymryd ei le tu ôl iddo. Daliai yn ei ddwylo ddarn o bren wedi'i beintio'n wyn ac arno'r ysgrifen,
GESTAS A DYSMAS
LLADRON
"Lleidr" y galwai Rhufain bob Selot, ac ysgrifenasid y gair deirgwaith ar y pren—mewn Lladin a Groeg a Hebraeg.
Cychwynnodd yr orymdaith, a'r bobl wrth y porth yn cilio mewn braw rhag chwip y Canwriad Sextus. Rhuai a rhegai'r cawr Gestas dan bwys ingol y groes ar gnawd briwedig ei ysgwydd, a safai tri milwr bob ochr iddo rhag ofn iddo ymwylltio'n sydyn. Er ei fod yn darw o ddyn, prin y gallai roi un troed o flaen y llall yn awr ar ôl arteithiau'r fflangellu a than faich y groes. Gŵr tenau a chymharol eiddil oedd yr ail, Dysmas, ac ymwthiai ef ymlaen fel un mewn breuddwyd, gan riddfan ac wylo'n blentynnaidd a galw'n ddolefus am ei fam. Un milwr a gerddai bob ochr iddo ef.
Daeth herald at Longinus a chanddo yntau bren ag arno ysgrifen mewn Hebraeg a Groeg a Lladin. Yr oedd paent y İlythrennau'n wlyb o hyd.
IESU O NASARETH
BRENIN YR IDDEWON
meddai'r pren, a gwenai'r dyn a'i daliai i fyny.