Tudalen:Yr Ogof.pdf/200

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pam y gweni?" gofynnodd y canwriad iddo.

"Y Rhaglaw, Syr. Ni wyddwn i ddim y medrai ef regi fel yna!"

"Rhegi?"

"Fe ddaeth rhai o'r offeiriaid ato a gofyn iddo newid yr ysgrifen—peidio â rhoi Brenin yr Iddewon' ar y pren.'

"Beth, ynteu?"

"I'r carcharor ei alw'i hun yn Frenin yr Iddewon. Yr hyn a ysgrifennais a ysgrifennais,' meddai wrthynt mewn Groeg. Yna fe droes i siarad â'i glerc a minnau—yn Lladin! Y mae'r Rhaglaw'n ŵr huawdl, Syr!"

Cychwynnodd Longinus tua'r porth, gan glecian ei chwip i yrru'r bobl ymaith. Nid edrychodd ar y carcharor.

I lawr â hwy heibio i fur y Praetoriwm ac yna ar hyd ffordd ddibreswyl am ychydig nes dyfod i heolydd culion a throellog y ddinas. Rhuthrasai lluoedd o bobl o'u blaenau i aros am yr orymdaith, a safent yn awr yn dyrrau swnllyd hyd fin yr ystrydoedd, yn y drysau, ar doeau'r tai—ym mhobman. Araf iawn oedd eu hynt, ac wrth iddo daflu golwg ar y dyrfa o'i flaen, ni chredai Longinus y gallai byth dorri llwybr drwyddi. Llifai ugeiniau i mewn i'r ddinas hefyd yn awr—ar droed, ar asynnod, ar gamelod, pob un yn llwythog ar gyfer yr Ŵyl ac amryw yn ceisio gyrru ŵyn o'u blaenau trwy ganol y berw o sŵn. Grochlefai stondinwyr a phedleriaid ar ochr y ffordd er na chymerai neb sylw ohonynt hwy na'u nwyddau, a throeon y gwelodd y canwriad fyrddau a thryciau'n bendramwnwgl ar ymyl yr heol a chardotwyr, yn ddeillion a chloffion a chleifion o bob math, yn cael eu gwthio a'u gwasgu'n ddidrugaredd yn erbyn muriau a drysau. Hunllef o ysgwyddo ac ysgrechian o'i gwmpas ac o'i flaen.

Yr oedd gan Sextus waywffon yn un llaw a'r chwip yn y llall, a defnyddiai hwy bron bob ennyd. Plyciai'n wyllt hefyd yn ffrwyn ei farch er mwyn i'r anifail brancio a dychrynu'r bobl o'i flaen. Ond cyn gynted ag yr âi Sextus a'i filwyr a'i ddau garcharor heibio iddynt, caeai'r dyrfa drachefn yn fur aflonydd o flaen Longinus. Ysgrechau'r bobl, rhegfeydd y milwyr, brefiadau ŵyn ac asynnod a chamelod—yr oedd y sŵn yn ddigon i ddrysu dyn.

Er hynny, rhyw ystŵr pell a disylwedd ydoedd yng nghlustiau Longinus, er bod ambell un yn ysgrechian yn ei wyneb