Tudalen:Yr Ogof.pdf/201

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bron. Pam, O, pam y rhoes Ffawd y gwaith anfad hwn iddo ef? Ni feiddiai edrych dros ei ysgwydd rhag ofn iddo syllu i lygaid dwys y proffwyd o Nasareth. Rhyw awr yn ôl, eisteddai i lawr i ysgrifennu llythyr at Othniel . . . Ac yn awr ef, ef, Longinus, a arweiniai'r Nasaread i'w groeshoelio fel caethwas neu ddihiryn. Draw yn Arimathea, breuddwydiai Othniel am ei arwr yma, ychydig gamau i ffwrdd, arteithiai'r groes gnawd archolledig ei ysgwydd ef. Efallai fod Othniel yn eistedd yr ennyd honno wrth ffrwd y berllan yn gweu dychmygion am y Galilead eithriadol hwn yma, llifai'r chwys i'w lygaid, 'baglai'n aml ar risiau'r ffordd, a gwthiai'r dyrfa a'r anifeiliaid ef a'i faich erchyll weithiau yn erbyn y mur. Neu efallai fod llwyth enfawr rhyw gamel yn ymddatod a syrthio arno ef a'i groes..

Ceisiodd y canwriad roi'r meddyliau hyn heibio. Yr oedd yn hen bryd iddo ymddwyn fel milwr, nid fel rhyw freuddwydiwr ofnus. Plyciodd yntau wrth ffrwyn ei farch a chwarddodd fel y ciliai'r bobl mewn dychryn rhag y carnau gwylltion. Cleciodd ei chwip hefyd yn ffyrnig ac yna slasiodd ryw ddyn a ysgrechai fel un gwallgof. Fe ddangosai ef pwy oedd pwy i'r cnafon hyn.

"Syr! Syr!"

Galwai amryw o'r dyrfa arno, gan bwyntio o'i ôl. Troes ei geffyl, gan yrru'r bobl wrth ei ochr yn bentwr brawychus i borth rhyw dŷ. Gwelai iddo farchogaeth ymlaen a gadael ei filwyr ryw bymtheg cam o'i ôl. Cleciodd ei chwip drachefn i agor ffordd drwy'r dryfa, a phan gyrhaeddodd at ei bedwar milwr, canfu iddynt aros. Brysiodd yr hen Farcus ato.

"Y carcharor ar lawr, Syr. Fe syrthiodd droeon, ond fe lwyddodd i godi bob tro—gyda chymorth swmbwl Fflaminius 'ma. Ond y tro hwn . . Ysgydwodd ei ben mewn anobaith. "Y groes yn ormod iddo, Syr."

"Chwipio'n dda i ddim, Syr," gwaeddodd Fflaminius, a ddilynodd ei gyd—filwr at y canwriad. "Na'r swmbwl haearn, fel y gwelwch chwi." Daliodd y swmbwl miniog i fyny, gan gilwenu'n greulon: yr oedd gwaed arno.

Edrychodd Longinus yn ddicllon ar y dyn, ond ni ddywedodd ddim arno ef yr oedd y bai am fynd o'u blaenau.

"Y mae wedi ymlâdd, Syr," gwaeddodd Marcus, i fod yn