Tudalen:Yr Ogof.pdf/202

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyglyw uwch sŵn y dorf. "Fe wnaeth ei orau glas, yr wyf yn sicr o hynny, ond nid yw'r nerth ganddo."

Nodiodd Longinus, a gwelai fod llygaid yr hen filwr yn llawn edmygedd wrth iddo chwanegu, "Y mae'n ddyn dewr iawn, Syr.'

Gerllaw, ar fin y ffordd, safai cawr o Iddew a haul rhyw wlad boeth wedi melynu'i groen: dywedai ei wisg estronol hefyd mai dieithryn wedi dyfod i'r ddinas am yr Ŵyl ydoedd. Amneidiodd Longinus arno.

"Beth yw d'enw?" gofynnodd. "Simon, Syr." "O b'le y deui?" "O Gyrene."

"Rho dy ysgwydd o dan y groes 'na."

Yr oedd y geiriau'n orchymyn swta a cheisiai'r canwriad swnio'n llym, ond llithrodd deisyfiad i'w lygaid, a theimlai'n falch wrth weld y dyn yn ufuddhau. Yna troes ben ei geffyl a chleciodd ei chwip yn ffyrnig eto. Nid edrychodd ar y carcharor.

Dringai'r ffordd ryw ychydig yn awr, gan ddal i droelli fel neidr tua Phorth Effraim. Ai'r dyrfa'n fwy swnllyd o hyd. Am ei garcharor ef y disgwylient fwyaf, yn amlwg, a chodai banllefau gwawdus ar bob tu pan ddeuai'r hysbysiad BRENIN YR IDDEWON i'w golwg. Tyrrent ar fin yr heol, yn nrysau ac ar doeau'r tai, yn y ffenestri lle'r oedd rhai i'w cael, a gwelai Longinus fod torf fawr ohonynt yn aros hyd fur llydan y ddinas. Cynhyrfwyd ef gan ddicter chwyrn: onid ymunodd ugeiniau o'r bobl hyn a'r pererinion o Galilea i groesawu'r Nasaread fel Brenin rai dyddiau ynghynt? Berwai ei waed ynddo: dirmygai hwy â'i holl galon. Cydiodd yn dynnach yn ei chwip a dechreuodd fflangellu'n wyllt i ddeau ac aswy. Chwarddai fel y ffrewyllai, ac fel petai yntau'n mwynhau'r gorffwylltra, cododd ei farch ar ei bedrain a'i draed blaen yn uchel yn yr awyr. Gobeithiai Longinus fod y Nasaread yn gwylio'i ddicter o'i blaid.

Daethant cyn hir i Borth Effraim, a heidiai ugeiniau o bobl ynddo a thu allan iddo ac ar y mur uwchben. "Dyma ef! Dyma ef!" gwaeddent, a fflachiai golau dieflig yn llygaid llawer ohonynt. Dechreuodd rhyw ddyn ysgrechian "Hosanna i'r Brenin!" ac ymunodd eraill yn wyllt yn y cri.