Tudalen:Yr Ogof.pdf/203

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llawenychai Longinus wrth weld ei chwip yn clymu am wddf tew y gŵr hwnnw, a'i ail "Hosanna!" yn marw yn ei geg fawr agored. Ymwthiai rhyw ddynes ymlaen â'i dwrn yn llawn o faw i'w daflu at y carcharor, ond caeodd y chwip am ei harddwrn a ffoes hithau am ei bywyd i'r dyrfa o'i hôl.

Wrth y porth safai twr o ferched yn wylo ac yn cwynfan. Yna tawelodd y dyrfa, ennyd, fel y gwelent y carcharor yn aros i annerch y gwragedd hyn. Yr oedd ei lais yn bur gryglyd yn awr, a siaradai'n araf a'i enau fel pe'n cydio'n benderfynol ym mhob gair. Ond er yr ymdrech a'r bloesgni yr oedd nerth ac awdurdod rhyfedd yn y neges. Ni ddeallai Longinus yr hyn a ddywedai, ond gwelai oddi wrth wynebau'r bobl o'i gwmpas fod y geiriau'n gwneud argraff ddofn arnynt

Ymlaen â hwy drwy'r porth, a chyferbyn yr oedd bryn Gareb yn ogoniant o flodau a choed a chân adar. Rhyngddynt a'r bryn gorweddai'r maes sialcog a elwid yn Golgotha neu Galfaria, Lle y Benglog, am fod y dwrn o graig yn ei ganol ar ffurf penglog. Gwelai Longinus fod Sextus a'i filwyr a'i ddau garcharor wedi cyrraedd y codiad tir ac wrthi'n dechrau ar eu gorchwylion yno.

Gyrrodd ysgrechian y bobl tu allan i'r porth ef yn wallgof unwaith eto, a dialodd arnynt eilwaith â'i chwip. Dylasai fod wedi yfed fel Sextus, meddai wrtho'i hun: dim ond dyn meddw a fedrai wneud y gwaith o'i flaen. Pan fyddai'r holl beth drosodd, âi i'r gwersyll ac yfed yn feddw ddall. Gwnâi, fe foddai bob atgof mewn diod. Chwipiodd y grechwen aflafar o geg rhyw hogyn gerllaw.

Aethant i'r maes ac ymlaen at y codiad creigiog yn ei ganol. Symudent yn gyflymach yn awr, gan fod y mwyafrif o'r bobl yn bodloni ar syllu o'r ysgwâr agored tu allan i'r porth ac oddi ar furiau'r ddinas. Ond daliai ugeiniau i ddilyn, llawer yn rhedeg ymlaen ac yn ôl fel cŵn cyfarthus. Sylwodd Longinus yn arbennig ar un dyn mewn oed a ddawnsiai ac a lefai fel hogyn yn gweld ymladd ceiliogod am y tro cyntaf: gwaeddai "Hosanna!" un ennyd, yna chwarddai fel un gwallgof, yna pranciai gan chwifio'i freichiau'n ffôl. Gyrrodd y chwip ef i chwilio am ddiogelwch yng nghefn yr orymdaith.

Fel y nesaent at y codiad tir, clywai'r canwriad ysgrechau a rhegfeydd y ddau garcharor arall: clywai hefyd regfeydd y milwyr a frwydrai â hwy. Yr oedd y ddwy groes ar lawr a'r