Tudalen:Yr Ogof.pdf/204

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddau ddyn yn cael eu dal arnynt. Y cawr Gestas a roddai fwyaf o drafferth yr oedd eisiau pedwar milwr i'w gadw ef yn llonydd tra gyrrai'r pumed yr hoelen drwy'i law dde. Un ennyd rhuai fel llew, yna ysgrechai a'i lais dwfn yn troi'n fain a chroch fel un dynes orffwyll, yna wylai a griddfannai fel plentyn, ac wedyn cynhyrfai drwyddo drachefn i chwythu a phoeri fel anifail. Yr oedd y llall, Dysmas, yn dawelach, yn crefu'n blentynnaidd am ei fam ac yn glafoerio'n dorcalonnus.

Yr oedd y drydedd groes a'r milwyr yn mynd heibio iddo. Gadawodd Marcus y lleill a dyfod at Longinus. Saliwtiodd.

"Ie, Marcus?"

"Y mae rhai o'r bobl 'na'n dal i ddilyn, Syr. Efallai y carech chwi fynd i'w gyrru ymaith?"

Edrychodd Longinus yn syn arno: yr oedd y bobl yn aros tu draw i farc a redai'n hanner-cylch drwy'r pridd, rhyw ugain cam i ffwrdd.

"Ond. . ."

"Os peidiwch chwi â brysio'n ôl, Syr, bydd y gwaethaf drosodd pan ddychwelwch." Nodiodd yr hen filwr i gyfeiriad y groes a roddai'r cawr o Gyrene ar y ddaear.

"Diolch, Marcus.. Diolch o galon i chwi . . . A, Marcus?" "Ie, Syr?"

"Nid. . . nid troseddwr cyffredin mo'r gŵr hwn."

"Y mae hynny'n . . . amlwg, Syr."

"Ydyw, Marcus, y mae hynny'n . . . amlwg. . . Diolch i chwi, yr hen filwr . . . Diolch, Marcus.'

A throes Longinus ben ei farch ymaith oddi wrth y codiad tir ac yn ôl tua'r tyrrau o bobl gerllaw.