Tudalen:Yr Ogof.pdf/205

Prawfddarllenwyd y dudalen hon


XI



YR oedd Longinus yn falch o gael troi ei farch ymaith oddi wrth ei filwyr ac o sŵn yr anfadwaith ar y codiad tir. Gwyddai ei fod yn ganwriad llwfr ac na fendithiai'r Llywydd Proclus ei ymddygiad, ond ymgiliwr ofnus neu beidio, gwell dianc na drysu yng nghlyw'r dioddef erchyll. Yr oedd yn bryd i rywun fel ei dad godi yn Senedd Rhufain i felltithio'r barbareiddiwch, i gymryd gam ymhellach haeriad yr hanesydd a'r llenor Cicero fod y gair "croes" yn un rhy ofnadwy i ddod yn agos i feddwl a chlust dinesydd Rhufeinig. Os gwir hynny, onid oedd yn rhy erchyll hefyd i feddwl a chlust Iddewig? Os dychwelai ef fyth i Rufain, fe ymladdai i geisio dileu'r creulondeb anhydraeth hwn.

Tawelodd y bobl erbyn hyn, er bod y gwylltaf ohonynt yn dal i ysgrechian "Hosanna!" Ond gweiddi er mwyn gweiddi yr oeddynt, gan ymdrechu i argyhoeddi ei gilydd nad oedd y cyffro drosodd. Tawsant pan aeth Longinus tuag atynt, a chiliodd dau lanc, yr uchaf eu lleisiau, tu ôl i dwr o wragedd: gwŷr eofn.

Chwythai'r Khamsin poeth gymylau o lwch a thywod dros y ddinas, a sychodd Longinus y chwys oddi ar ei dalcen. Crwydrodd ei feddwl eto i Arimathea at Othniel a'r ffrwd fechan ym mhen pellaf y berllan. Rhoddai rywbeth am gael bod wrth su esmwyth yr afonig honno yn gwrando ar lais tawel ei gyfaill yn darllen un o'i gerddi iddo. Un o'i gerddi? Byddai'r hanes am y Nasaread yn ddigon i ladd pob barddoniaeth yn ei natur, i chwerwi'i unigrwydd a'i freuddwydion oll. Dychmygai am Alys yn dychwelyd â'r newydd fod y Proffwyd yn ei fedd—na, ei gorff wedi'i losgi yn un o'r tomenni ysgarthion yn nyffryn Gehenna gerllaw—a gwelai lygaid dwys Othniel yn anghrediniol ac yna'n dywyll gan ing. Rhaid iddo gael gair ag Alys cyn iddi droi'n ôl i Arimathea: efallai y gallai ef leddfu rhyw gymaint ar y boen. Beth fyddai'r