Tudalen:Yr Ogof.pdf/206

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cysylltiad rhwng Othniel a'i dad yn awr, tybed? Daethai'r breuddwyd am yr ogof yn wir, yn ddieflig o wir.

Wedi i'r Rhufeinwr fynd heibio ar ei farch, mentrodd y ddau lanc eto o'u cuddfan tu ôl i'r gwragedd, gan ysgrechian "Hosanna!" eilwaith. Troes Longinus yn ôl tuag atynt, a dihangodd y ddau nerth eu traed tua'r ddinas. Sylwodd y canwriad fod tair o'r gwragedd yn sefyll ar wahân i'r lleill yng nghwmni gŵr ifanc tal, a bod un ohonynt yn beichio wylo. Ciliasant gam yn ôl mewn braw pan nesaodd ef.

Ond er hynny, aeth ymlaen atynt.

"Am bwy yr wylwch?" gofynnodd mewn Groeg.

"Am Iesu o Nasareth, Syr," atebodd yr hynaf yn dawel. "Yr ydych yn perthyn iddo, efallai?"

"Myfi yw ei . . . fam." Yr oedd tynerwch tu hwnt i ddagrau yn y llais.

"O, y mae'n . . . y mae'n ddrwg gennyf."

Gododd y ferch a wylai ei phen, gan daflu'r gorchudd o sidan du yn ôl oddi ar ei hwyneb. Sylwodd Longinus ei bod hi'n eneth dlos a dyfnderoedd disglair yn ei llygaid mawr duon. "Ydyw, y mae'n debyg!" meddai'n wyllt. "Ydyw, yn ddrwg iawn gennych ""

"Ydyw."

Nodiodd y canwriad yn araf, gan adael iddi edrych i fyw ei lygaid. Syllodd hithau'n syn arno.

"Ydyw," meddai drachefn, gan droi at y fam. Daeth gwên drist i'w hwyneb.

"A gawn ni fynd ato ef, Syr?" gofynnodd.

"Os credwch chwi fod hynny'n ddoeth." Apeliodd ei lygaid at y dyn ifanc a oedd gyda hwy. Nodiodd hwnnw.

"O'r gorau."

Canfu wrth droi'n ôl at y milwyr fod y tair croes i fyny, yn wynebu'r ddinas. Gestas a oedd ar y chwith, y Nasaread yn y canol, a Dysmas ar y dde. Byddai'n rhaid aros yn awr am oriau, efallai am ddeuddydd neu dri, aros i'r ing losgi'r bywyd ymaith. Clir, a'u cyrff bron yn noeth, oedd olion y fflangell arnynt.

Daeth y ddau filwr Marcus a Fflaminius tuag ato: yr oedd rhyw ymrafael rhyngddynt. Safodd y ddau gan saliwtio, er