Tudalen:Yr Ogof.pdf/208

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"He, he, he, y canwriad eisiau cynnig! O'r gorau, Syr. Fflaminius yn barod i roi cynnig i rywun."

Estynnodd y disiau i Longinus a chymerodd yntau hwy a'u hysgwyd a'u taflu.

"He, he, he, dau a thri! Dau a thri! Neb yn gallu curo'r hen Fflam!"

Yna, â rhyw haelioni sydyn yn gafael ynddo, taflodd y wisg i fyny tros liniau'r canwriad.

"Fflaminius yn sbort, Syr," meddai'n floesg. "Fflaminius yn rêl sbort."

Nid oedd ar Longinus eisiau'r wisg, ond teimlai fel y cyffyrddai â hi yr hoffai i rywun gwell na'r milwr hwn ei chael. Gwyddai y cymerai'r hen Farcus ofal ohoni.

"Yr ydych chwi'n garedig iawn, Fflaminius. Yn rêl sbort! Gweld Marcus 'ma'n edrych yn siomedig yr oeddwn i, a meddwl petawn i'n ennill . . .

"Ie, Marcus ei chael hi, Syr!"

Tynnodd y wisg i lawr a'i rhoi'n ffwdanus ar fraich ei gyd—filwr. Yna saliwtiodd yn ddigrif o simsan cyn troi'n ôl at y milwyr eraill. Eisteddent hwy gerllaw ar ddarn o graig, yn prysur wagio'r ddwy gostrel enfawr a ddygasent gyda hwy.

Yr oedd golwg ddwys ar yr hen Farcus.

"Diolch, Syr," meddai. "Gofalaf am y wisg hon fel petai hi'n un ar ôl fy nhad neu fy mrawd. Y gŵr yna, Syr, yw'r dewraf a welais i erioed. Y dewraf un—a gwelais ddynion dewr mewn llawer gwlad." Troes i edrych yn freuddwydiol tua'r groes ganol cyn dweud eilwaith, "Y dewraf un, Syr."

"Fe ddioddefodd yn dawel, Marcus?"

"Do, yn hynod dawel, Syr. Ond fe wnaeth fwy na hynny. Fe wrthododd yfed y gwin meddwol cyn inni ei roi ar y groes, ac wedyn, pan oeddem ni'n gyrru'r hoelion i'w ddwylo, Syr. Yr oedd dagrau yn llygaid yr hen filwr.

"Ie, Marcus?"

"Fe weddïodd ar ei Dduw drwy'r boen i gyd. Trosom ni, Syr."

"Beth oedd ei eiriau, Marcus?"

"O Dad,' meddai, 'maddau iddynt, canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.' Yr oedd hyd yn oed Fflaminius yn syllu'n syn arno. Ni fûm i erioed yn gwneud gwaith mor atgas, Syr. Naddo, erioed, er imi helpu i groeshoelio