Tudalen:Yr Ogof.pdf/210

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Fechgyn!" gwaeddodd. "Iechyd da i'r Brenin! Iechyd da i Frenin yr Iddewon!"

"Iechyd da i Frenin yr Iddewon!" llefodd ei gyd-filwr Leo, gan chwifio'i forthwyl yn un llaw a chwpan yn y llall.

"Hwde, Marcus," meddai Fflaminius. "Ti yfed iechyd da Brenin yr Iddewon."

Ond ysgwyd ei ben a wnaeth yr hen filwr a gwthio'r gostrel ymaith yn ddiamynedd.

"Hei, was!" Yr oedd Fflaminius yn gas. "Pwy ti'n feddwl wyt ti? Y?" Gŵyrodd ymlaen i rythu yn wyneb y llall. "Y?" gwaeddodd eilwaith.

Troes Marcus ymaith i daflu'r disiau a ysgydwai yn ei ddwylo. Cydiodd Fflaminius yn ddig yn ei ysgwydd.

"Fi'n siarad â thi, was! Fi'n gofyn cwestiwn i ti, was! A'r cwestiwn oedd . . . Y cwestiwn oedd . . . " Ond aethai'r cwestiwn ar goll yn niwl ei feddwl.

Yr oedd Marcus ar ei draed yn awr a'i waywffon yn ei law, ac anadlai'n drwm. Sobrodd y llall wrth ei weld.

"Fi a Marcus, yr hen Farcus, yn ffrindiau calon," meddai'n ffôl, "yn rêl sborts. He, he, he! Marcus ddim am yfed iechyd da i'r Brenin. O'r gorau, Fflam yn yfed yn lle

"Marcus!"

Cymerodd y cwpan oddi ar Leo a llwyddodd i dywallt gwin iddo. Dechreuodd yfed, ond arhosodd ei law yn yr awyr fel y deuai syniad newydd i'w feddwl. Troes ei ben tua'r groes ganol.

"He, he, he, Fflam yn yfed yn lle Marcus!"

Ymlwybrodd yn feddw tua'r groes, gan honcian a baglu tros y tir anwastad, creigiog. Wrth ei throed ymsythodd ac edrychodd i fyny ar y Nasaread.

"Os tydi yw Brenin yr Iddewon," gwaeddodd mewn Groeg, "gwared dy hun!"

Yfodd yn swnllyd ac yna cymerodd arno gynnig y cwpan i'r croeshoeliedig. Chwarddodd y carcharor Gestas yn ffyrnig o ganol ei boenau.

"Ie," rhuodd, "os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau." Tawodd griddfan y trydydd carcharor, Dysmas. Er bod y symudiad lleiaf yn wayw annioddefol iddo, gŵyrodd ymlaen i edrych heibio i'r Nasaread.

"Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddedfryd?"