Tudalen:Yr Ogof.pdf/213

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aethai rhyw deirawr o dywyllwch heibio yr oedd hi tua'r nawfed awr. Troesai rhuadau Gestas yn riddfan isel, dwfn, a pharablai bymtheg y dwsin hefyd ar adegau, fel petai'r loes yn gwanhau ei feddwl. Hongiai Dysmas yn anymwybodol ar y groes, ond hyd yn oed o dir angof, daliai i lefain weithiau am ei fam. Dioddefai'r Nasaread yn dawel a dewr.

"Y gŵr dewraf a welais i erioed." Eisteddai'r canwriad ar ei farch a geiriau syn yr hen Farcus yn troi a throi yn ei feddwl. Oedd, yr oedd hwn yn ddewr. Nid yfasai ef o'r vinum languidum, 'gwin trymder', cyn ei groeshoelio; yr oedd fel petasai'n mynnu cadw'i feddwl a'i synhwyrau'n glir hyd y diwedd. Rhaid bod y boen yn enbyd iddo ef, ac eto ni fygythiai fel Gestas ac nid wylai fel Dysmas. Yr oedd urddas rhyfeddol yn ei dawelwch ef.

Beth oedd ei feddyliau, tybed? gofynnodd Longinus i'r tywyllwch. Ychydig a ddywedasai—y weddi ar ei Dad am iddo faddau i'r rhai a'i croeshoeliai; gair wrth y gwragedd a'r gŵr ifanc pan aethant ato; y frawddeg am Baradwys wrth Dysmas; cri yn Aramaeg, ei iaith ei hun, gan godi'i lygaid i'r nef fel petai'n erfyn, o ganol ei unigrwydd, am arwydd oddi wrth ei Dduw; ac "Y mae arnaf syched," pan frysiodd Marcus i ddal, ar flaen corsen, ysbwng yn llawn o'r posca wrth ei enau. Ond yr oedd ei fudandod yn huotlach na geiriau. Ymddangosai fel un a ddewisai farw, yn eofn a dwys a thawel. Yr oedd hwn, yn wir, yn Frenin.

Duai'r tywyllwch yn fwy fyth ac yn y dwyrain, draw uwch bryniau Moab, ac yna'n nes, nes o hyd, crwydrai taranau hirion drwy'r nef. Ni welai Longinus mo'r bobl a safai wrth y marc yn y pridd, ac aneglur iawn oedd wynebau'r milwyr iddo. Pwysai'r caddug i lawr fel rhyw drymder anferth ar fin ymollwng ar y ddaear a gwasgu pawb a phopeth yn ddiddim. Aeth y canwriad ychydig yn nes at y croesau, a gwelai nad oedd diwedd y Nasaread ymhell. Gŵyrai'i ben ar ei fynwes ac yr oedd ei lygaid ynghau. Safai Marcus gerllaw iddo â'r gorsen a'r ysbwng o hyd yn un llaw a'i waywffon yn y llall, fel delw o filwr yn y gwyll. Daeth at ei ganwriad.

"Ein dyletswydd a wnaethom ni, onid e, Syr?"

"Wrth gwrs, Marcus."

"Ie, Syr, a rhaid i filwr ufuddhau, onid rhaid?"

"Rhaid, Marcus."