Tudalen:Yr Ogof.pdf/215

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Oedd, Syr, rhywbeth. rhywbeth mwy na dewrder." Nesâi tramp pedwar o filwyr.

"Rhai o garsiwn y Rhaglaw, Syr," meddai Marcus, gan eu gwylio'n gadael Porth Effraim ac yn anelu'n syth atynt hwy. "Hy, pwy mae'r rhai yna'n feddwl ydynt hwy?"

Saliwtiodd y pedwar o flaen Longinus pan ddaethant ato. "Gorchymyn oddi wrth y Rhaglaw, Syr," meddai'u harweinydd.

"Wel?"

"Gorchymyn i ladd y tri charcharor a thaflu'u cyrff i'r domen yng Nghwm Gehenna."

Nodiodd y canwriad, yn bur anfodlon ei wedd.

"Ond pam?" gofynnodd.

"Bu rhai o'r offeiriaid at y Rhaglaw, Syr," eglurodd y milwr.

"Offeiriaid? Nid â'r cais hwn?"

"Ie, Syr. Y mae Sabath yr Iddewon yn dechrau gyda'r hwyr heno. A'u Pasg. Bydd y rhai hyn"—a nodiodd tua'r croesau "yn halogi'r Ŵyl."

Credai Longinus y clywai watwareg yn ei dôn, yn arbennig ar y gair "halogi." Ond nid oedd cysgod gwên ar ei wyneb: milwr dan orchymyn ydoedd.

"Gellwch dynnu'r groes ganol i lawr pan fynnoch." Edrychodd y milwr yn syn arno.

"Nid ydyw wedi marw eisoes, Syr?"

"Ydyw."

Rhoes y dyn orchymyn i'w gyd-filwyr a throesant ymaith at eu gorchwyl. Gwelai Longinus fod y tair o wragedd a'r dyn ifanc yn penlinio wrth droed y groes ganol. Yr oedd y llances yn beichio wylo a'i holl gorff yn cael ei ysgwyd gan ei galar.

Symudodd ychydig i ffwrdd rhag bod yn dyst o boenau'r ddau garcharor arall. Yr oedd llid yn ei galon wrth iddo feddwl am "sancteiddrwydd" y Deml fawr a'i hoffeiriaid duwiol. "Halogi!" meddai rhwng ei ddannedd. Yna fe'i hatgofiodd ei hun mai milwr, a milwr Rhufeinig, oedd ef ac nad oedd a wnelai â'r bobl hyn a'u crefydd a'u rhagrith. Ond y bore hwnnw, yn Antonia, onid edmygai ef eu ffydd mewn un Duw yn hytrach nag mewn llu aneirif o dduwiau? Gwnâi, ond yr oedd ffieidd-dod yn ei galon yn awr. Pob