Tudalen:Yr Ogof.pdf/216

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parch iddynt hwy a'u Teml orwych a'i byddin o offeiriaid, pob parch i'w defosiynau a'u gwyliau crefyddol ac i'w synagogau ym mhob tref a phentref drwy'r wlad; ond ar y groes gerllaw yr oedd breuddwydiwr a phroffwyd ifanc a'i obeithion wedi'u diffodd ganddynt. Hwy, nid Rhufain, a'i gyrrodd ef i'r groes.

Mingamodd Longinus wrth syllu ar wychder y ddinas o'i. flaen. Tywynnai'r haul arni yn awr, gan daro'n ddisglair ar ei muriau a'i thyrau ac yn arbennig ar do euraid y Deml fawr. Dinas o eira a'i tho o aur! Beth a ddywedodd rhywun oedd ystyr 'Jerwsalem', hefyd? O, ie, Trigfan Heddwch'. Edrychodd yn hir ar lonyddwch gwyn y ddinas, gan edmygu, er gwaethaf ei chwerwder, ei harddwch a'i llonyddwch hi. Pa un a oedd wynnaf, ai ei meini hi ai'r cymylau gwynion acw yn yr awyr las uwch ei phen? Fflachiai ambell helm a tharian ar Dŵr Antonia uwchlaw'r Deml, fel pe i atgoffa'r ddinas sanctaidd fod cleddyf a gwaywffon yr Ymerawdwr yn gwylio'i bywyd hi.

Fel y llithrai'r geiriau "y ddinas sanctaidd" i'w feddwl, troes edmygedd Longinus yn atgasedd eilwaith. Yr ennyd hwnnw, o ffair ei Theml enfawr, deuai criau gyrwyr a gwerthwyr anifeiliaid a lleisiau cyfnewidwyr arian. Gwelai'r canwriad eto Gyntedd y Cenhedloedd a'r Nasaread ifanc yn gyrru'r ' lladron' ymaith mewn braw. Ond yn awr tawelwyd ei lais ef ac âi'r elwa ymlaen yn wylltach nag erioed. A thu fewn i'r Deml yr oedd yr offeiriaid wrthi'n aberthu ŵyn ar eu hallor sanctaidd, a'r bobl a grochlefai ar y ffordd tua Golgotha erbyn hyn yn eu tai yn paratoi ar gyfer "bwyta'r Pasg" a chanu mawl i'w Duw. Yr oedd yma, meddai'r canwriad wrtho'i hun yn chwerw, destun newydd i awen Othniel. Oen y Pasg ar allor y groes! Na, ceisiai guddio pob cysgod o chwerwder fel hyn rhag ei gyfaill claf: byddai'r newydd am farw'r Proffwyd o Nasareth yn siom ofnadwy iddo, heb ei liwio â gwawdiaeth felly. A thyfai yn awr, yn fwy na thebyg, elyniaeth chwyrn rhwng Othniel a'i dad, y Cynghorwr a oedd yn un o'r rhai a gondemniodd y Nasaread i'r groes.

Gwelai ryw ddyn yn brysio tuag ato. Oni bai am ei wisg dlodaidd, yr oedd yr un ffunud â thad Othniel a Rwth. Yr un cerddediad, a'r ysgwydd dde'n ymddangos ychydig yn uwch na'r llall. Sylwasai o'r blaen mor debyg oedd yr