Tudalen:Yr Ogof.pdf/218

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Y Rhaglaw ei hun."

"O." Sobrodd hynny ychydig arno.

"I beth?"

"I dorri'u coesau a dwyn eu cyrff ymaith. Y mae gan yr Iddewon ofn iddynt halogi'r Ŵyl."

"He, he, he, pobl grefyddol, Longinush, pobl dduwiol drosh ben, onid e? Y cnafon yna a oedd yn shgrechian bob cam o'r ffordd i lawr yma! Y taclau! Y diawliaid! Y . . . " Ond nid oedd geirfa Sextus yn un gyfoethog iawn, a bodlonodd ar boeri'n huawdl ar y llawr a rhythu'n ddicllon tua'r ddinas. "Ond cewch chwi a'ch milwyr fynd yn ôl i'r gwersyll yn awr, Sextus.

"Cawn. Cawn, wrth gwrsh. Yn ôl i Antonia am lymaid. Shychedig, shychedig ofnadwy. Hei!" gwaeddodd ar y milwyr, a oedd yn ffraeo am rywbeth, "Heddiw, nid yfory!"

Ond gwelai Longinus mai ymhlith ei filwyr ef yr oedd y cynnwrf a brysiodd tuag atynt. A'i bicell yn fygythiol yn ei law, ceisiai Fflaminius fynd heibio i'r hen Farcus i ymladd ag un o filwyr y Rhaglaw. Gyrrodd y canwriad ei geffyl rhwng ei ddau filwr a'r lleill.

"Fflaminius!"

Rhoes Fflaminius y gorau i'r ymrafael a chododd ei bicell i'w dalcen mewn saliwt. Ond yn beiriannol y gwnâi hynny, gan ddal i hylldremio i gyfeiriad y llall, er bod y march rhyngddo a'r dyn yn awr.

"Beth sy'n bod, Marcus?"

"Fe yrrodd y milwr 'ma ei bicell i fynwes y carcharor, Syr. Rhag ofn bod bywyd ynddo. A phan welodd Fflaminius hynny . . ."

"Mi fedrwn i wneud yr un peth iddo yntau, Syr," meddai Fflaminius rhwng ei ddannedd.

Cymerodd Longinus arno edrych yn geryddgar arno, ond mewn gwirionedd, edmygai'r dicter a fflachiai yn llygaid ei filwr hanner-meddw.

"Y mae'r dyn yn gwneud ei ddyletswydd, Fflaminius," meddai. "Cawsant orchymyn i dynnu'r cyrff i lawr a'u dwyn ymaith."

"Do, Syr, ond yr oeddwn i wedi dweud wrthynt fod ein carcharor ni . . .

Daeth y Canwriad Sextus ymlaen atynt.

"Gadewch y bushnesh i'r rhain, Longinush," meddai,