Tudalen:Yr Ogof.pdf/22

Gwirwyd y dudalen hon

ac afiach. A thu fewn i'r ogof yr oedd wynebau ffiaidd a chreulon yn cilwenu ar ei gilydd. Cynllwynwyr.'

"Lladron?"

"Nage. Gwŷr urddasol a phwysig a gwisgoedd heirdd amdanynt. Ac yn eu plith yr oedd wyneb . . . fy nhad."

"Breuddwyd yw breuddwyd, Othniel," meddai'r canwriad, gan godi a chymryd ei darian oddi wrth y mur. "Ceisiwch ei anghofio. Bydd Alys yn sicr o ddwyn y proffwyd yma, cewch weld. Y mae'n siŵr o wrando ar Alys. Ni fedrai neb ei gwrthod hi. Ac wrth erfyn trosoch chwi bydd ei holl enaid . . . "

Yr oedd y gwrid yn llamu i wyneb Othniel, ac ni ddywedodd y canwriad ychwaneg.

"Wel, y mae'n rhaid imi fynd," meddai. "Yr wyf am fod yn Jerwsalem cyn nos."

"Gwell i chwi aros nes daw fy chwaer yn ôl o'r synagog," sylwodd Othniel. "Neu bydd helynt yma."

"Na, y mae'n ddoeth imi gychwyn. Byddaf yn cyfarfod Rwth yn Jerwsalem nos yfory."

"Pa bryd y cawn ni gwrdd eto, Longinus?"

"Wn i ddim, wir. Hawdd oedd imi redeg i lawr yma o Jopa ar ddiwrnod rhydd a mynd yn ôl i'r gwersyll i gysgu. Ond y mae Jerwsalem ymhell."

"Cewch ychydig ddyddiau rhydd cyn hir, efallai?"

"Dau ddiwrnod hollol glir, ymhen rhyw bum wythnos."

"Rhaid i chwi eu treulio yma, ynteu. Cofiwch!"

"Hoffwn hynny, Othniel."

"Campus. Edrychaf ymlaen at eich gweld."

"Diolch yn fawr iawn."

"Tan hynny, pob bendith, Longinus."

"Ac i chwithau, Othniel. A breuddwydion melysach."

"Gyrrwch air ataf o Jerwsalem."

"Gwnaf, ac yn fuan.'

O'i ffenestr gwyliodd Othniel ef yn marchogaeth ymaith hyd lwybr y berllan ac yna, wedi i'r coed ei guddio am dipyn, i lawr y bryn tua'r cypreswydd llonydd ar ei waelod. Hoffai'r Rhufeinwr myfyrgar a diffuant hwn yn fawr; yn wir, ni allai feddwl am neb y carai ei gwmni'n fwy. Neb ond Alys. Gresyn ei symud o'r garsiwn yn Jopa gerllaw. Ni welai fawr ohono yn awr, ac yntau yng Nghaer Antonia yn Jerwsalem. Llithrodd ei feddwl yn ôl tros lawer seiad felys