Tudalen:Yr Ogof.pdf/220

Prawfddarllenwyd y dudalen hon


XII



WEDI i Bilat fynd i mewn i'r Praetoriwm ac i'r Archoffeiriad droi ymaith tua'r Deml, ymwthiodd Joseff a Nicodemus drwy dyrfa swnllyd y Palmant at y porth a'r grisiau a oedd yn arwain i'r ffordd. Nid oedd hynny'n anodd, gan i ugeiniau o'r bobl ruthro allan ar unwaith i gael golwg ar y carcharorion yn cychwyn i lawr i Galfaria. Chwiliai llygaid Joseff am Heman a'r lleill, eithr ni welai mohonynt yn unman. Ond yr oedd Ioan Marc yn aros wrth y porth.

"Aeth fy nhad a'r lleill adref, Syr," meddai.

Llifai'r dagrau i lawr ei ruddiau, a phrin y gallai ynganu'r geiriau. Rhoes Joseff ei fraich am ei ysgwydd ac aethant i lawr y grisiau gyda'i gilydd.

"Yr oedd rhai o'r bobl yn edrych arnom, Syr. Ac yn sibrwd yn filain wrth ei gilydd."

"Fe wnaeth dy dad yn ddoeth, 'machgen i. Gwell i tithau fynd adref. Hwde, cymer yr arian hyn."

Tynnodd Joseff bwrs o'i wregys, gan feddwl rhoi hynny a oedd ynddo i'r bachgen, ond ysgydwodd Ioan Marc ei ben. Beth oedd arian iddo ef, a'r Meistr wedi'i gondemnio? Diolchodd ei lygaid i'r Cynghorwr caredig, ac yna rhedodd ymaith i'r dde, i rywle lle câi feichio wylo.

Rhoes twr o bobl fanllef i Joseff pan gyrhaeddodd y ffordd. Credent wrth weld ei urddwisg mai un o gyfeillion yr Archoffeiriad ydoedd a'i fod yn haeddu clod am ennill buddugoliaeth tros y Rhaglaw Rhufeinig. Ni ddeallent pam yr edrychai mor hyll arnynt.

"Dewch, Nicodemus, yr wyf am newid y wisg hon heb oedi." Brysiodd y ddau i lawr i Heol y Pobydd. Safai Abinoam wrth ddrws y gwesty.

"O, dyma chwi, Syr! Eich gwraig yn methu â gwybod beth a ddigwyddodd i chwi. Ofni i ryw ladron gael gafael ynoch yn y nos. Ond yr oeddwn i'n dweud wrthi . . . "