"Abinoam?"
"Ie, Syr?"
"A ellwch chwi gael benthyg gwisg imi? Gwna rhywbeth y tro."
Crafodd y gwestywr ei bedair gên.
"Wel, Syr, nid oes neb crand iawn yn aros yma—ar wahân i chwi a'r Cynghorwr Patrobus, Syr. Y mae ef newydd fynd allan, ond efallai y gallaf gael benthyg gwisg gan y masnachwr Merab . . ."
"Gwisg un o'ch caethion a fyddai orau gennyf. A gorau po dlotaf y bo hi."
Ni wyddai Joseff yn iawn pam y dywedai hyn, ond daethai'r geiriau'n fyrbwyll o'i enau ac edrychodd yn ffiaidd ar ei urddwisg gain. Sylwodd Abinoam fod llygaid y dyn yn wyllt.
"Rhywbeth . . . rhywbeth o'i le, Syr?"
"Na, dim, Abinoam, dim yn y byd. Dim ond bod y Meseia ar ei ffordd i'r groes Yr Archoffeiriad yn aberthu Oen y Pasg. A'i aberthu ar y groes. Dim ond hynny, Abinoam."
"Y Meseia, Syr?" Syllodd y gwestywr yn ddryslyd arno. "Y Brenin y buoch yn sôn amdano y noson o'r blaen wrthyf," atebodd Joseff yn dawel. "Ond y wisg, Abinoam, y wisg."
"Wel, Syr, nid wyf yn hoffi rhoi gwisg un o'r gweision i chwi. Efallai y gall gwas y Cynghorwr Patrobus ddod o hyd i . . . "
Âi'r hen Elihu a'r Roeges fach Alys heibio iddynt, ar eu ffordd i mewn i'r tŷ. Cuddiai'r gaethferch ei hwyneb rhagddynt, ond dywedai'i hysgwyddau anesmwyth ei bod yn galaru am rywbeth.
"Beth sydd, Alys?" gofynnodd Joseff.
Safodd y ferch, ond ni allai yngan gair. Prysurodd Elihu i ateb trosti.
"Newydd weld rhyw ddyn yr un ffunud â'i thad y mae hi, Syr, a gafaelodd pwl ofnadwy o hiraeth ynddi."
"O, y mae'n ddrwg gennyf, Alys. Ewch i mewn i'r tŷ i eistedd am dipyn a chymerwch gwpanaid o win."
"Diolch yn fawr, Syr."!
Cychwynnodd yr hen Elihu i mewn gyda hi, ond galwodd Joseff ef yn ei ôl.
"Elihu?"
"Ie, Syr?"