Tudalen:Yr Ogof.pdf/225

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi i Elihu fynd ymaith, camodd Esther yn fygythiol i mewn i'r ystafell, fel mam ar fin ceryddu rhyw blentyn drwg.

"Unwaith eto, a ydych chwi'n drysu, Joseff?"

Nid atebodd ef, ond yr oedd ei lygaid tawel, di—syfl, yn ei dychrynu.

"Joseff!"

"Ie, Esther?"

"Beth yw ystyr peth fel hyn? Pam y gwisgwch fel . . . fel cardotyn?"

"Cardotyn? Cardotyn ydwyf, Esther. Ond ni wyddwn i mo hynny nes iddi fynd yn rhy hwyr. Pe sylweddolaswn i hynny ymhell cyn hyn, gallaswn fod wedi mynd at y gŵr cyfoethocaf yn y byd i grefu am dosturi. Ond y mae'n rhy hwyr, rhy hwyr."

"A phwy, tybed, yw'r gŵr cyfoethocaf yn y byd?" "Y mae ar ei ffordd i'r groes, Esther . . . Clywch!"

Deuai o bellter grochlefau tyrfa wyllt.

"Y Meistr," meddai Joseff yn floesg.

"Ai am y Nasaread hwnnw y soniwch?" gofynnodd ei wraig yn llym. "Clywais ei fod ef yn cael ei haeddiant o'r diwedd."

"Ni wyddoch beth a ddywedwch, Esther. Nid ydych yn deall. Y maent, y maent yn croeshoelio'r Meseia . . . Mab y Dyn. . . y . . . y Meistr."

"Clywais droeon fod y dyn yn swynwr. Y mae'n amlwg ei fod wedi bwrw rhyw hud trosoch chwi. Y Ewch i orwedd am dipyn, wir, Joseff. Heb gysgu yr ydych: dyna pam y mae'ch meddwl mor ddryslyd."

"Ni bu fy meddwl yn gliriach erioed, Esther . . . Bore da, Rwth."

"Tada!"

Safai Rwth yn y drws, wedi'i gwisgo'n ffasiynol dros ben, ar gychwyn allan i gyfarfod ei chariad newydd, ŵyr yr hen Falachi. Dychrynodd wrth weld ei thad yn ei wisg dlodaidd.

"Beth. . . beth sy, 'Mam?"

"Y swynwr 'na o Nasareth wedi drysu meddwl dy dad, 'merch i. Efallai y gelli di roi rhyw synnwyr yn ei ben."

Ond ni chafodd Rwth gyfle i wneud hynny. Cymerodd Joseff ei urddwisg oddi ar y fainc lle y taflasai hi ac estynnodd hi i'w ferch.