Tudalen:Yr Ogof.pdf/227

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y croesau, ond gwylient bob symudiad a wnâi'r milwyr a'r carcharorion, eithr gan geisio peidio â dychmygu ing y croeshoeliedig yng ngwres didostur yr haul a'r gwynt. Gwelsant y milwr meddw'n ymlwybro at y groes ganol â'r cwpan yn ei law a chlywsant Gestas yn rhuo, "Ie, os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau." Collasant yr hyn a ddywedodd Dysmas ac ateb y Nasaread, ond pan droes y milwr meddw'n ei ôl at y lleill, gwyddent fod pob gwawd a gwatwar wedi troi'n llwch ar ei dafod.

"Edrychwch, Joseff," meddai Nicodemus ymhen ennyd. "Yr hen Falachi a'r lleill."

Safodd y bagad o Gynghorwyr ar y dde iddynt, a chlywsant lais main, atgas, yr hen Falachi:

"Ti, a ddinistri'r Deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun!"

Yna llais Esras:

"Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes!"

A thaflodd y Cynghorwyr a oedd gyda hwy eu hysgorn tua'r groes:

"Eraill a waredodd efe: gwareded ef ei hun!"

"Ie, os hwn yw Crist, etholedig Duw!"

"Gwared dy hun a disgyn oddi ar y groes!"

Berwai gwaed Joseff ynddo a chaeodd ei ddyrnau. Nid oedd ef yn ŵr byrbwyll ac ni fuasai erioed yn ymladdwr, ond teimlai y gallai roi tro yng nghorn gwddf yr hen Falachi, a hynny'n llawen. Rhoes Nicodemus law ataliol ar ei fraich.

"Ni ddaw dim da o gweryla â hwy, Joseff," meddai. "A gwyddoch mor ddialgar yw'r hen Falachi."

Aeth y Cynghorwyr ymaith, a Malachi'n eu harwain, yn bur fodlon ar eu gwrhydri. Clywai Joseff y Pharisead Isaac yn gwneud sŵn boddhaus yn ei wddf.

Llusgodd amser heibio. Cyn hir syllai pawb yn bryderus i'r nef, gan ryfeddu bod canol dydd yn troi'n nos drom, ddi-sêr, ddi-leuad. Y tair croes, Ioan a'r gwragedd, y ddau ganwriad ar eu meirch, y milwyr ar y creigiau ymddangosai'r olygfa o'i flaen yn ansylweddol i Joseff. Fel rhyw freuddwyd y deffroai ohono ymhen ennyd. Tawodd pob sŵn—clebran y milwyr, cân yr adar o'r gerddi gerllaw, lleisiau gyrwyr a phererinion ar y briffordd, criau pedleriaid y ddinas—a dim ond gweryru'r ddau farch ac ochain Gestas a chwynfan Dysmas a dorrai ar ddistawrwydd y gwyll. Pan dawodd y