Tudalen:Yr Ogof.pdf/229

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pwy ydych chwi?" gofynnodd yn dawel ac ofnus. Cymerodd Joseff ei law a'i dal hi rhwng ei ddwylo'i hun. "Un a bechodd fel chwithau, Jwdas. A fu'n ddall."

Ni theimlasai Joseff mor dosturiol erioed. Yr oedd gwyn llygaid Jwdas yn waedlyd, ac oddi tanynt gwelai olion duon pryder ac anhunedd. Cerfiasai gofid, fel pe â chŷn, rigolau dwfn yn ei wyneb tenau. Aethai'r dyn ifanc hwn yn hen mewn deuddydd.

Tynnodd Jwdas ei law ymaith yn sydyn, a dangosodd ei ddannedd fel ci ar fin brathu.

"Felly! Felly! Yr wyf yn eich adnabod yn awr!"

Chwythai'r geiriau allan rhwng ei ddannedd cloëdig, ac yna camodd yn ôl a'i ddwylo aflonydd yn hanner cau i lindagu'r Cynghorwr. Daeth gwên fileinig i'w wyneb.

"Ni fyddwch well o ddial arnaf fi, 'machgen i. Ni fyddai hynny'n lliniaru dim ar ing y Meistr."

"Y. . . y Meistr?"

Syrthiodd ei ddwylo'n llipa i'w ochrau a daeth eto'r olwg blentynnaidd, golledig, i'w wyneb.

"Pam y daethoch chwi atom i'r Deml, 'machgen i? Nid er mwyn yr arian, mi wn i hynny."

"Arian! Petai Caiaffas wedi cynnig holl Drysorfa'r Deml imi, a fuaswn i wedi bradychu'r Meistr iddo? Yr oeddwn i am roi'r rheini i'r tlodion. Arian!

Arian! Bûm yn y Deml gynnau a'u taflu hwy ar y llawr i ganol yr offeiriaid. Arian! A fuaswn i'n gwerthu'r Meistr am bris niweidio caethwas?"

Siaradai'n gyflym, rhwng ei ddannedd o hyd, gan rythu'n wallgof eto i wyneb Joseff.

"Na fuasech, Jwdas. Credu yr oeddech yr amlygai'r Meistr ei nerth, y dinistriai'i elynion oll."

"Byddai'n rhaid iddo wneud hynny, yn rhaid iddo. i'r milwyr ag ef i'r gell, ond yn y bore fe gerddai oddi yno ac ni allai neb godi bys i'w erbyn. Ymgrymai hyd yn oed plismyn y Deml a'r holl offeiriaid a gweision Caiaffas ac Annas o'i flaen ef. Pawb ond Caiaffas ac Annas a rhai o'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'r Sadwceaid."

Dug yr enwau hyn holl lid ei natur i'r wyneb. Ffieiddio'i hun yr oedd, ond rhoddai casáu eraill ryddhad i'w deimladau ffyrnig. Nid oedd modd i dafod roi mwy o atgasedd mewn geiriau.

"Annas a Chaiaffas! . . . Annas a Chaiaffas a'u criw! . . .