Tudalen:Yr Ogof.pdf/23

Gwirwyd y dudalen hon

gyda'r canwriad, pan dreulient oriau yn trafod beirdd ac athronwyr Groeg neu pan wrandawai Longinus yn astud ond beirniadol ar ryw salm a gyfansoddodd ei gyfaill claf. Daethai Othniel i edrych ar y Rhufeinwr fel un o'i ffrindiau pennaf. Câi ei weld eto ymhen rhyw bum wythnos. Ond cyn hynny, deuai rhywun mwy na Longinus i Arimathea. Y Nasaread y soniai'r hen gaethwas Elihu gymaint amdano. Deuai, er gwaethaf y breuddwyd hyll am yr ogof a'i chynllwynwyr. Deuai, fe ddeuai, yr oedd yn sicr o ddod.

Arhosodd Joseff ar ôl yn y synagog i ymgynghori â'r gweinidog a'r Rheolwr a rhai o'r henuriaid. Neu, yn hytrach, i roi cyfle iddynt hwy ymgynghori ag ef. Gŵr pwysig a rhadlon a gerddai tuag adref, wedi i bawb gytuno'n wasaidd â phob awgrym o'i enau. Felly y teimlai Joseff bob Sabath wrth ddychwelyd o'r synagog, a chan fod y ffordd yn dringo hyd lethrau'r gwinwydd, yr oedd balchder bob amser yn ei drem. Ei winwydd ef.

Gresyn i Othniel gymylu'r dydd drwy sôn am y breuddwyd ffôl 'na. Ond dyna, yr oedd y bachgen yn wael, a deuai pob math o ddychmygion i feddwl rhywun claf. Deuai, a rhaid oedd maddau i un felly. Ond fe haeddai'r hen gaethwas Elihu gerydd am gludo rhyw storïau gwirion fel hyn o'r Gogledd. Pam gynllwyn na chadwai'r hurtyn ei ofergoelion iddo'i hun? Gwyrthiau, wir!

Pan gyrhaeddodd waelod yr allt a ddringai tua'i dŷ, daeth ar draws yr hen Joctan yn eistedd ar fin y ffordd.

"Cael sbel fach, Joctan?"

"Ie. Yr hen synagog newydd 'na mor bell a'r hen goesau 'ma mor wan." "Hen" oedd popeth i Joctan.

Cododd yn awr, a cherddodd Joseff yn araf wrth ei ochr. "Sut y mae'r mab hynaf y dyddiau yma, Joseff?" "Othniel? Gweddol, wir.'

"Da iawn, da iawn. Nid oes angen gofyn sut mae'r mab arall."

"Beniwda? Na, y mae ef yn llawn bywyd, onid ydyw?" Rhoch chwern oedd ateb yr hen frawd. Ymlusgodd ymlaen am dipyn ac yna arhosodd i gael ei wynt ato.

"Mi welais i bump ohonynt yn cael eu croeshoelio unwaith,' meddai ymhen ennyd. "Yn Jerwsalem. Bedair blynedd yn ôl."