Tudalen:Yr Ogof.pdf/230

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fe ddangosai'r Meistr ei allu, ac fe'u crogai'r rheini eu hunain. Sleifiai pob un o'r rhagrithwyr hynny i Ddyffryn Cidron neu i lethrau Olewydd a chlymu'u gwregysau am eu gyddfau cyn dringo'r coed. I fyny i goeden. . . clymu pen arall y gwregys am gangen gref . . . oedi am ennyd rhag ofn bod rhywun yn gwylio ac yn debyg o ymyrryd . . . un anadliad arall o'r awyr iach, gan ei yfed fel gwin . . . un olwg arall ar y dydd a'r dail a'r blodau. yna naid sydyn . . . He, he, he! "

Troes a diflannu yn y gwyll. Cymerodd Joseff gam cyflym ar ei ôl, ond cafodd gip arno'n rhedeg ymaith a gwyddai na ddaliai ef mohono. Ofnai fel y dychwelai'n araf at Nicodemus fod rhyw gynllun gorffwyll ym meddwl Jwdas o Gerioth. "Bydd dyner wrtho, O Dduw," meddai'n floesg wrth y tywyllwch.

Safodd eto wrth ochr Nicodemus, gan geisio peidio â meddwl am ddim, dim yn y byd. Ond haws oedd ceisio na llwyddo i wneud hynny. Othniel, Esther, Heman y Saer, Caiaffas, Simon Pedr, y Rhaglaw Pilat, yr hen Falachi, y caethwas Elihu—ymrithient o'i flaen yn y caddug annaearol hwn. A sibrydai lleisiau, fel siffrwd dail yn y gwyll:

"Ogof dywyll, afiach . . . Eich wyneb chwi, 'Nhad . . ." "

"Hwn yw'ch cyfle, Joseff . . . Ysgydwch eich dyrnau, ymwylltiwch"

"Nid tipyn o saer yw Iesu o Nasareth, Syr."

"Yr oedd yn rhaid imi wadu, Syr, yr oedd yn rhaid imi wadu . . ."

"A groeshoeliaf fi eich Brenin chwi?"

"Ti, a ddinistri'r Deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun?"

"Ond i rywun ddechrau meddwl am y peth, Syr, i mewn ynom ni, yn ein calonnau ni . . ."

"Un olwg arall ar y dydd a'r dail a'r blodau . . . "

Beth a ddigwyddai tu draw i len y düwch o'u blaenau, tybed? Rhythai Joseff a Nicodemus yn fud, gan feddwl weithiau eu bod yn canfod yr wynebau ar y croesau annelwig, ond dychmygu yr oeddynt. Tawelwch tywyll oedd eu byd, heb ddim ond ambell riddfan o enau Gestas neu Dysmas yn torri arno. Siaradai a chwarddai un milwr yn o uchel