Tudalen:Yr Ogof.pdf/233

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dringodd y ddau'n gyflym tua Gwesty Abinoam, gan guro'u bronnau yn eu galar. Yr oedd yr heolydd yn wacach o lawer erbyn hyn, gan i'r rhan fwyaf o'r bobl gilio i'w tai i baratoi swper y Pasg cyn gynted ag y deuai tair seren i'r nef, byddent yn eistedd i fwyta'r oen di-fefl wedi'i fendithio gan offeiriaid y Deml, a'r ffrwythau cymysg a'r llysiau chwerwon a'r bara croyw.

"Rhaid imi newid y wisg hon," meddai Joseff. "Ni wrendy'r Rhaglaw Pilat ar un sy'n edrych fel cardotyn. Rhof fy urddwisg amdanaf."

"Af finnau i brynu peraroglau. Myrr ac aloes."

"Ie. Cymerwch yr arian hyn, beraroglau Nicodemus, a phrynwch trosof finnau hefyd.'

"Na, Joseff, y mae gennyf. . . "

"Cymerwch hwy, a pheidiwch ag ofni'u gwario . . . A, dyma ni!"

Brysiodd Joseff yn dawel i fyny'r grisiau i'w ystafell a chafodd fod ei urddwisg yno wedi'i phlygu'n ofalus a'i tharo ar y fainc esmwyth wrth y mur. Gwisgodd yn gyflym, ac wedi llenwi'i bwrs ag arian, aeth ymaith ar flaenau'i draed: nid oedd arno eisiau gwastraffu amser i egluro pethau i Esther nac i Abinoam na neb arall.

Pan gyrhaeddodd ef a Nicodemus y ffordd a ddringai tua'r Praetoriwm, trefnasant i gyfarfod eto wrth Fasâr y Peraroglau yn Heol y Farchnad.

"Bydd y peraroglau'n barod gennyf," meddai Nicodemus wrth droi ymaith.

A wrandawai Pilat arno? gofynnodd Joseff iddo'i hun ar y ffordd. Rhoesai ddigon o arian yn ei bwrs a byddai'r ddadl honno, yn ôl pob hanes, yn sicr o ennill clust a chalon y Rhaglaw. Ond efallai yr ofnai Pilat elyniaeth y Deml—a cholli'r cyfoeth a roddai'r hen Annas yn gyson iddo.

Cyrhaeddodd y Praetoriwm, ac wedi iddo fynegi'i neges, arweiniodd un o'r gwylwyr ef ar draws y Palmant gwag ac i fyny'r grisiau i'r oriel. Cyn hir daeth clerc y Rhaglaw ato, ac eglurodd Joseff ei fwriad iddo yntau. Ymddangosai'r dyn byr a thew yn nerfus ac ysgydwodd ei ben yn ofnus.

"Y mae'r Rhaglaw mewn hwyl ddrwg heddiw," meddai, "ac nid oes arno eisiau clywed gair eto am y Galilead 'na. Pan ddechreuais i sôn am y praw wrtho gynnau, dywedodd y torrai fy nhafod i ffwrdd os crybwyllwn i'r peth eto. Na, y