Tudalen:Yr Ogof.pdf/235

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aelod o'r Sanhedrin, y Cyngor a gondemniodd y carcharor, ond yn lle erfyn arno ddifa'i gorff fel y gwnaethai'r lleill, gofynnai amdano i'w gladdu. I'w gladdu? Efallai fod rhyw rwyg yn y Sanhedrin a bod gan hwn ac eraill gynllun i geisio'i achub a'i adfywio a'i gyhoeddi'n Frenin yr Iddewon.

"Wedi marw? .. Eisoes?"

"Ydyw, f'Arglwydd. Er tua'r nawfed awr.

Tynnodd y Rhaglaw wrth raff sidan a hongiai yng nghongl yr ystafell. Canodd cloch yn rhywle a chyn hir agorodd ei glerc y drws.

"Clywaf fod y Galilead wedi marw. Carwn wybod hyd sicrwydd."

"Anfonaf am y canwriad ar unwaith, f'Arglwydd."

Eisteddodd Pilat ar fainc esmwyth ac amneidiodd tuag un arall. Eisteddodd Joseff yntau. Bu orig o ddistawrwydd ac yna gŵyrodd y Rhaglaw ymlaen.

"Pam y gwnewch y cais hwn?"

Cwestiwn sydyn, syml, uniongyrchol—fel Pilat ei hun. Atebodd Joseff ar unwaith.

"Cynllwynais yn erbyn y carcharor, f'Arglwydd. Myfi a'r Archoffeiriaid ac eraill. Yr oeddwn yn ddall. Agorwyd fy llygaid erbyn hyn. Gwn yn awr imi gynllwyn yn erbyn y Meseia."

"Y Meseia? Rhyw fath o frenin, onid e?"

Gwenodd y Rhaglaw: rhyw bobl ryfedd oedd yr Iddewon hyn. Ond ciliodd y wên fel y cofiai am urddas y carcharor hyd yn oed wedi'r fflangellu creulon. Urddas brenhinol.

"Gofynnais iddo ai ef oedd Brenin yr Iddewon," meddai. "Dywedai'r warant ei fod yn hawlio hynny. Pwy a'i lluniodd hi?"

"Y warant, f'Arglwydd? Yr Archoffeiriad ac eraill."

"Ie, y cadno Caiaffas. Hoffai imi gredu bod y Galilead am gychwyn gwrthryfel yn erbyn Rhufain. Ai ti yw Brenin yr Iddewon?' gofynnais iddo. Fy mrenhiniaeth i nid yw o'r byd hwn,' oedd ei ateb."

Cododd y Rhaglaw oddi ar y fainc i gerdded yn anesmwyth o amgylch yr ystafell. Safodd ymhen ennyd wrth rwyllwaith y ffenestr, gan syllu i lawr ar y ddinas islaw, ac yna troes yn sydyn.

"Beth a feddyliai, Gynghorwr?"

Ond ni fu raid i Joseff ateb: daeth curo ar y drws.