Tudalen:Yr Ogof.pdf/240

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hynny, y bara croyw frys y dianc. Er pan oedd yn fachgen pedair ar ddeg, eisteddasai Joseff bob blwyddyn wrth fwrdd y Pasg i fwyta'r bwyd ac i yfed y gwin ac i ganu'r Halel, y salmau cysegredig, ac wedi iddo dyfu'n ddyn gofalai fynd â'i deulu i Jerwsalem at yr Ŵyl. Yr oedd yn ddigon hen i gofio, pan oedd yn blentyn, ei dad yn bwyta'r Pasg ar frys a'i lwynau wedi'u gwregysu a'i bastwn yn ei law a'i sandalau am ei draed i arwyddo brys yr ymadawiad o'r Aifft, ond erbyn hyn hanner-orweddai pawb ar fatresi neu garpedi wrth y bwrdd isel, yn arwydd o ryddid.

Oen yr aberth, ymwared o gaethiwed, rhyddid. Troai Joseff y geiriau hyn yn ei feddwl fel yr eisteddai ar y fainc yng ngwyll ei ystafell. Aberth, ymwared, rhyddid. Ymwared o gaethiwed rhagrith a ffuantwch a malais. Yr ennyd honno yr oedd cannoedd o hyd yn y Deml yn cludo'i hŵyn at yr offeiriaid i'w harchwilio ac yna i un o'r Cynteddau i'w lladd, a safai rhesi hir o offeiriaid â chawgiau aur neu arian yn eu dwylo i drosglwyddo'r gwaed o un i'r llall nes cyrraedd yr olaf, a'i tywalltai ar yr Allor. Yno, meddyliodd Joseff, y dylai yntau fod yr oedd hi'n Ŵyl y Pasg. Ond fel y dychmygai'r prysurdeb yn y Deml, gwelai wrth yr Allor wynebau dwys yr Archoffeiriaid Caiaffas ac Annas. A thybiai y clywai eto lais yr hen Elihu yn dweud, "Ond i chwi ddechrau meddwl am y peth, Syr, i mewn ynom ni, yn ein calonnau ni . . .

Daeth curo ar ddrws ei ystafell, a chlywai Joseff anadlu trwm Abinoam.

"Ie?"

"Fi sydd yma, Syr."

"Dewch i mewn, Abinoam."

"Yn y tywyllwch yr ydych, Syr?" meddai'r gwestywr yn syn wedi iddo gludo'i bwysau enfawr i mewn. "Petaech chwi ddim ond wedi canu'r gloch, Syr, fe fuasai un o'r gweision . . .

"Na, yr oeddwn i'n mwynhau'r gwyll, Abinoam."

"Y mae popeth bron yn barod gennym, Syr. Byddwn yn gwmni o ddeunaw i gyd rhwng y gweision. Ac yr oeddwn i'n meddwl, Syr, y carech chwi fod yn Ben y Cwmni wrth y bwrdd."

"Na'n wir, chwi biau'r anrhydedd hwnnw, Abinoam.