Tudalen:Yr Ogof.pdf/241

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A chofiafi chwi wneud y gwaith yn hynod o dda y llynedd pan gefais i'r fraint o eistedd wrth eich bwrdd."

"Wel, Syr, gan eich bod chwi mor garedig â dweud hynny, mi wnaf fy ngorau y tro hwn eto. Mi fûm drwy'r tŷ i gyd neithiwr ac wedyn y bore 'ma i ofalu nad oes y mymryn lleiaf. o lefain yn yr un ystafell. A chredaf imi ddod o hyd i bob briwsionyn i'w llosgi. A golchwyd pob dysgl yn lân. Ydyw, y mae popeth bron yn barod gennym, Syr. Dewch i lawr ymhen rhyw chwarter awr."

"Dof i lawr atoch, Abinoam, i fod gyda chwi. Ond ni allaf fwyta'r Pasg."

"Syr?" Syllodd y gwestywr ar Joseff heb ddeall.

"Dof i lawr atoch. Ond ni allaf fwyta'r Pasg gyda chwi." "Pam. pam hynny, Syr?"

"Yr wyf newydd ddod o dŷ halog, Abinoam. Bûm yn y Praetoriwm yn gweld y Rhaglaw Pilat."

"O. Y mae'n . . . y mae'n ddrwg gennyf, Syr. A oedd yn rhaid i chwi fynd yno?"

"Oedd."

Ffrydiai'r lloergan i'r ystafell yn awr, gan oleuo wyneb blinedig y Cynghorwr ar y fainc. Aeth Abinoam yn nes ato.

"Rhywbeth o'i le, Syr?"

"Credaf i chwi ofyn y cwestiwn yna imi unwaith o'r blaen heddiw. A'r un yw'r ateb, Abinoam, yr un yw'r ateb. Fe. groeshoeliwyd y Meseia.'

Edrychodd Abinoam yn hir ar Joseff, heb wybod beth i'w ddweud, ac yna troes ymaith yn araf gan ysgwyd ei ben. Daethai rhyw wendid rhyfedd tros feddwl y Cynghorwr, meddai wrtho'i hun. Wedi iddo fynd drwy'r drws daeth Esther i mewn.

"A, dyma chwi o'r diwedd, Joseff! Bu Rwth a minnau yn nhai amryw o'ch cyfeillion yn chwilio amdanoch. Ac yn y Deml, wedi inni wybod eich bod yn gwisgo'ch urddwisg. Y mae'n dda gennyf, Joseff."

"Yn dda? Am beth, Esther?"

"Am fod yr hud a roes y swynwr 'na o Galilea arnoch wedi cilio. Pan ddeallais i eich bod chwi wedi gwisgo'ch urddwisg, O, dyna ryddhad a gefais i, Joseff! Yr oeddwn i'n ofni bod y dyn wedi gwanhau'ch meddwl chwi, oeddwn wir. Ond y mae popeth yn iawn yn awr ac yr wyf yn siŵr y bydd yr Archoffeiriad Caiaffas yn deall ac yn maddau i chwi am