Tudalen:Yr Ogof.pdf/242

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddwyn mor rhyfedd. Ac y mae gennyf newydd i chwi, Joseff. Nid oes raid i chwi boeni rhagor am Rwth a'r canwriad Rhufeinig, Longinus. Y mae Gibeon eisiau priodi'ch merch."

"Gibeon?"

"Mab Arah sy'n gyfnewidiwr arian yn y Deml. Wyr i'r hen Falachi, un o ddynion cyfoethocaf Jerswalem, Joseff. Ac y mae Gibeon hefyd yn llwyddiannus iawn fel cyfnewidiwr arian. 'Wyddoch chwi faint o arian a wnaeth ef yr wythnos hon yn unig? Bwriwch amcan, Joseff."

"Esther?"

Ond parablodd Esther ymlaen, heb sylwi ar ddwyster y llais.

"Yr wythnos hon yn unig, cofiwch! Mi rof i dri chynnig i chwi, Joseff. Ac mi fentraf y byddwch chwi'n gwrthod credu. Y mae'n anhygoel, Joseff, yn anhygoel! A dim ond newydd gael ei fwrdd ei hun yn y Cyntedd y mae Gibeon!

Prentis gyda'i dad Arah oedd ef tan yr wythnos hon, ond yn awr . . . "

Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.'"

"Beth?"

"Geiriau'r Proffwydi, Esther, ond fe'u llefarwyd hwy gan rywun mwy y dydd o'r blaen.

"Rhywun mwy na'r Proffwydi?"

Sylweddolodd Esther fod rhyw ddieithrwch mawr yn llais ei gŵr, a gwelai wrth graffu ar ei wyneb yng ngolau'r lloer fod golwg syn a churiedig arno.

"Rhywun mwy na'r Proffwydi?" gofynnodd eilwaith, gan wneud ymdrech i gadw'r wên anghrediniol yn ei llais.

"Ie. Saer di-nod o Nasareth."

Penderfynodd Esther droi'n gas, gan obeithio y dygai hynny ei gŵr ato'i hun.

Joseff! Y mae'n hen bryd i chwi ymysgwyd. Yr ydych yn ymddwyn fel plentyn. Rhoes y dyn ryw swyn arnoch, mi wn, ond y mae'n rhaid i chwi ei daflu ymaith, brwydro ag ef, yn lle gadael i ryw ddewin fel yna eich trechu'n lân. Dewch, deffrowch, wir!"

Gododd Joseff yn araf ac aeth at y ffenestr. Wynebai hi tua'r dwyrain, a gwelai'r ffordd yn dringo o Ddyffryn Cidron. Dychmygai ganfod lanternau a ffaglau arni a chlywed tramp bagad o filwyr yn dringo tua phlas yr Archoffeiriad. Cofiodd mor llawen oedd ef wrth wisgo'n frysiog y noson honno ac mor