falch y teimlai o gael llaw yng nghynllwynion Caiaffas. fel y llithrai'r cwbl yn ôl i'w feddwl, daeth hefyd ddicter tuag at Esther, a'i cyffroes yn erbyn y Meistr. Yr oedd ar fin troi o'r ffenestr a hyrddio geiriau dig tuag ati pan gofiodd am y llygaid treiddgar a thosturiol a'u hymchwil ddiarbed hwy. Na, nid edliwiai wrthi. Yn araf y deuai hi i ddeall. Pan ddychwelai Beniwda, cannwyll ei llygad, o'r Gogledd, efallai. Ond yr oedd yn rhaid iddo achub Rwth. Bachgen Arah fab Malachi oedd yr olaf un y rhoddai ef ei ferch yn wraig iddo. Nid adwaenai mohono, ond dywedasai Esther ddigon iddo wybod bod y llanc yn ŵyr da i'r hen Falachi, a'i draed yn eiddgar ar lwybrau hoced. Daeth geiriau Dan y Gwehydd i'w feddwl . . . "Dau fachgen cywir a hoffus, Syr, ond eu bod hwy braidd yn wyllt." Rhoddai hanner ei gyfoeth am weld Rwth mewn cariad â rhywun fel mab Dan y Gwehydd. Nid adwaenai mohono yntau chwaith, ond os oedd ef rywbeth yn debyg i'w dad. . .
Troes Joseff oddi wrth y ffenestr.
"Esther?" Yr oedd ei lais yn dawel a charedig. "Ie, Joseff?"
"Ymh'le y mae Beniwda?"
"I lawr gyda'r cwmni. Ac y mae'n bryd i chwithau fynd, Joseff. Y mae'n siŵr eu bod yn aros amdanoch cyn dechrau bwyta . . . O'r annwyl, ni welais i'r fath ddiwrnod â hwn! Yr oedd Beniwda hefyd fel un mewn breuddwyd, ac ni chawn i ddweud gair yn erbyn y Nasaread 'na wrtho. A dywedodd wrthyf ei fod ef a rhyw ffrind sy ganddo yn Jerwsalem am fynd i Galilea am ysbaid. A glywsoch chwi'r fath lol yn eich bywyd erioed? I wybod mwy am hanes y dyn, os gwelwch chwi'n dda! Beniwda! Beniwda o bawb!"
"I Galilea?" meddai Joseff yn syn, gan gymryd arno fod hyn yn newydd iddo. "Yr wyf fi'n falch iawn, Esther."
"Ydych, y mae'n debyg," meddai hithau'n ysgornllyd. "I chwithau gael gwybod mwy am y dyn."
"Nid am hynny'n unig, Esther. Y mae Beniwda mewn perygl bywyd."
Ciliodd y dicter o'i hwyneb a daeth ofn yn ei le.
"Beth . . . beth sydd wedi digwydd, Joseff?"
"Dim—eto. Ond gwyddoch i ddau arall gael eu croeshoelio heddiw. Gestas a Dysmas."
"Dau leidr."