Tudalen:Yr Ogof.pdf/246

Gwirwyd y dudalen hon

Duw, Brenin y cread, a'n dewisodd ni o blith yr holl bobloedd ac a'n dyrchafodd ni o blith yr holl ieithoedd a'n sancteiddio ni â'th orchmynion. A rhoddaist inni, O Arglwydd, yn Dy gariad, ddyddiau i lawenydd, a threfnaist dymhorau i orfoledd, a hwn, dydd gwledd y bara croyw, tymor ein rhyddid, a bennaist yn gydgyfarfod sanctaidd i goffáu ein hymadawiad o'r Aifft.

Wedi'r weddi hon o ddiolch, yfodd Abinoam ac yna cyflwynodd y cwpan i'r gŵr ar ei chwith, y Cynghorwr Patrobus, a phasiwyd y gwin wedyn o un i un o amgylch y bwrdd. Wedi i forwynion ddwyn dysglau o ddŵr i mewn, golchodd pob un o'r cwmni ei ddwylo ac yna dygwyd y dysglau i'r bwrdd—yr oen, y llysiau chwerw, y cymysgedd o ffrwythau wedi'u sychu, a'r bara croyw. Cymerodd Abinoam rai o'r llysiau chwerw a'u gwlychu mewn finegr cyn bwyta un a chyflwyno'r lleill i'r cwmni. Yna torrodd un o'r cacenni crynion o fara croyw rhwng ei fysedd a dal y ddysgl i fyny gan lefaru'r geiriau:

"Hwn yw bara'r ing, a fwytaodd ein tadau yng ngwlad yr Aifft. Pawb sydd yn newynog, deuwch, a bwytewch: pob un anghenus, deuwch, cedwch y Pasg."

Llanwyd yr ail gwpan yn awr, ond tra llefarai Abinoam eiriau'r fendith, crwydrodd meddwl Joseff i'r noson gynt o dan yr olewydd yn Nyffryn Cidron. Tywynnai'r lloer eto ar wyneb onest, gofidus, Simon Pedr. Ac nid llais Abinoam a glywai ond geiriau tawel y pysgodwr:

"A neithiwr, pan fwytaem,' Hwn yw fy nghorff,' meddai'r Meistr, wrth dorri'r bara, a' Hwn yw fy ngwaed,' wrth roddi'r cwpan inni. Na, Syr, nid difa'i elynion a wna'r Meistr yfory, ond . . . ond..

Edrychodd Esther yn bryderus ar ei gŵr. Yr oedd ei wyneb yn llwyd a churiedig ac anadlai'n anesmwyth.

"Dewch, Joseff," sibrydodd. "Y mae'n well i chwi fynd i orffwys. Dewch, yr ydych wedi blino."

Nodiodd yntau'n ffwndrus, a'i feddwl yn dryblith ac ing yn dywyllwch yn ei lygaid. Cododd, a chymerodd Esther ei fraich i'w arwain o'r ystafell. Dringodd y ddau y grisiau'n araf.

"Y mae arnaf ofn bod y Nasaread wedi cael rhyw ddylanwad rhyfedd arnoch chwi, Joseff," meddai hi. "Ond byddwch yn iawn wedi cael noson dda o gwsg. Yn y bore fe welwch