Tudalen:Yr Ogof.pdf/26

Gwirwyd y dudalen hon

Nid atebodd Beniwda. Tynnodd ddeilen oddi ar gangen a dechreuodd ei fysedd nerfus ei thorri'n ddarnau.

"Beth . . . beth a wnaeth i ti ymuno â'r . . . â'r Blaid?" "Y mae'n ddrwg gennyf eich clwyfo, 'Nhad," meddai Beniwda ymhen ennyd. "Gwn eich bod chwi a gwŷr y Deml a'r Sanhedrin yn casáu'r Blaid. Ond yr ydych yn ddall."

"Dall?"

"Ydych, i gyd yn ddall. Yn y Blaid y mae unig obaith y genedl. Lle bynnag yr ewch, beth a welwch chwi? Y bobl yn llwgu a threthi'r Rhufeinwyr a threthi'r Deml yn eu gwasgu i farwolaeth. Ewch i Jopa, ewch i Gesarea, ewch i Jericho, ewch i . . . "

Codai Beniwda ei lais a siaradai fel areithiwr ar lwyfan. Torrodd Joseff ar ei draws.

"Nid oes golwg llwgu arnat ti, Beniwda. Nac ar neb yn Arimathea hyd y gwn i."

"Y mae Arimathea'n eithriad. Pam? Am eich bod chwi'n digwydd talu'n dda i'r gweithwyr. Ond hyd yn oed yn Arimathea y mae Job y Publican yn blingo'r bobl."

"Iddew, nid Rhufeinwr, yw Job."

"Ond y Rhufeinwyr yw ei feistri. Hwy sy'n ei apwyntio i gasglu'r trethi iddynt. Ddoe ddiwethaf yr oeddwn i'n siarad â hen wraig yng ngwaelod y pentref. Yr oedd hi newydd fod â basgedaid fawr o ffrwythau yn y farchnad.

'Gwerth pum darn o arian,' meddai Job y Publican wrthi yn y porth, gan ddal ei law allan am y dreth ar hynny. Bu raid iddi dalu'r bumed ran o'u gwerth hwy, un darn o arian, yr unig un a oedd ganddi ar ei helw. Ond wedi iddi fod yn y farchnad drwy'r dydd, dim ond un darn a gafodd hi am y cwbl oll.

A phan aeth hi'n ôl at Job, ni wnaeth hwnnw ond chwerthin am ei phen hi."

"A sut y mae Plaid Ryddid yn mynd i symud y pethau hyn?"

"Cewch weld. A chyn hir hefyd."

"Cawn weld y Rhufeinwyr yn croeshoelio mwy a mwy o aelodau'r Blaid . . . Beniwda?"

"Ie?"

"Gwrando, 'machgen i. Chwarae â thân yr wyt ti. Â rhywbeth gwaeth na thân. Y mae'r Rhufeinwyr yn ddidrugaredd weithiau."