Tudalen:Yr Ogof.pdf/32

Gwirwyd y dudalen hon


II



BORE trannoeth, o'i sedd wrth y ffenestr gwyliodd Othniel hwy'n cychwyn ar eu taith i Jerwsalem, y teulu ar gamelod a'r gweision, Elihu ac Alys, ar asynnod. Chwifiodd ei law a gwenodd arnynt, gan geisio ymddangos yn ddidaro, ond gwyddai y byddai'n unig iawn hebddynt. Yn enwedig heb Alys. Daethai'r gaethferch fach o Roeg yn rhan o'i fywyd bellach, ac yr oedd meddwl am fod heb weld ei hwyneb na chlywed ei llais am wythnos gyfan yn ei ddychrynu. Bu adeg pan weddïai bob dydd am gael marw, am ddianc ymaith o boen a blinder ei gorff, ond byth er pan ddaeth Alys atynt, dyheai am gael byw am yfory a thrannoeth yn hyfrydwch ei chwmni hi. Hi a'i achubodd ef rhag anobaith.

Aeth y cwmni o'r golwg ymhen ennyd yng nghoed y berllan, ond nid cyn i Alys daflu edrychiad cyflym yn ôl tua'r tŷ—a ffenestr Othniel. Cyflym, rhag ofn bod llygaid llym Elisabeth, y brif forwyn, yn ei gwylio o'r tŷ. Troes yr hen Elihu hefyd ei ben yr un pryd, gan gymryd arno fod rhywbeth o'i ôl a dynnai'i sylw, ond gwyddai Othniel mai ymgais ydoedd i guddio chwilfrydedd Alys. Yr oedd yr hen gaethwas yn hoff iawn o'r Roeges.

Tywynnai'r haul yn ddisglair a llanwai'r adar y berllan â melyster eu cân. Bore hyfryd, ond cofiodd Othniel mai twyllodrus oedd gwenau'r gwanwyn. Yn aml iawn dygai'r bore heulwen ac awyr las, ond cyn nos wele gaenen o eira ar faes a chlawdd neu'r Khamsin, gwynt poeth yr anialwch, yn diffodd pob llewych o egni mewn dyn. Ond heddiw, yr oedd y gwanwyn ar ei orau; deunod y gog ymhell ac agos, y gwenoliaid yn ymdroelli'n llon uwchben, y fronfraith a'r durtur wrth eu bodd yng nghangau'r coed, ac ar y ddaear islaw gyfoeth o flodau amryliw. Gyferbyn â'r ffenestr, wrth droed coeden gitron, tyfai'r anemoni coch yn garped gloyw, ac yng nghanol y carped safai tri chlwstwr o gennin Pedr.