Tudalen:Yr Ogof.pdf/33

Gwirwyd y dudalen hon

Gwyliai Othniel gochni disglair y blodau bychain yn pylu fel y llithrai cwmwl, ennyd, dros yr haul, ac ymddangosai'r cennin Pedr yn awr fel brenhinoedd yn sefyll ar garped o broffor drud.

Daeth sŵn carnau'r camelod a'r asynnod i'w glyw: gadawsai'r cwmni lwybr glas y berllan a chyrraedd y ffordd galed, garegog. Gan fod y tŷ ar uchelder craig, gallai eu dilyn â'i lygaid i lawr y bryn at y cypreswydd llonydd, unfaint, wrth y tro ar y gwaelod a phwysodd ymlaen ar ei sedd i wylio pob symudiad o'r eiddynt.

Gwenodd fel y llithrodd ei lygaid o un i'r llall. Edrychai ei dad i lawr yn freuddwydiol, gan godi'i ben weithiau i gydsynio â sylwadau huawdl ei wraig. Tawedog iawn oedd ef, meddai Othniel wrtho'i hun, tawedog a digynnwrf a chyffyrddus, heb boeni fawr am ddim. Pan oedd yn hogyn, credai Othniel fod ei dad yn ŵr doeth a meddylgar a hynod grefyddol; onid ag ef yr ymgynghorai Rheolwr y synagog ynghylch pob gwasanaeth, ac onid âi i Jerwsalem yn rheolaidd i gymryd rhan yng ngwaith y Deml sanctaidd? A phan godwyd y synagog newydd yn Arimathea, ei dad a dalodd y rhan fwyaf o'r gost ac a ofalodd fod y gweithwyr yn llunio adeilad gwych. Galwai yno bob dydd i feirniadu neu i fendithio'u hegnïon, a phan dynnai'r gorchwyl tua'i derfyn, soniai amdano fel petai'n ffrwyth ei lafur ef ei hun. Tŷ i Dduw oedd y synagog, ond er ei waethaf tyfodd y syniad ym meddwl Othniel mai ei dad, ac nid Iafe, oedd piau'r un yn Arimathea. A phan gafodd, yn dair ar ddeg, y fraint o ddarllen rhannau o'r Gyfraith yn y gwasanaeth, ceisiai wneud hynny'n glir a dwys, gan wybod bod ei dad, yn hytrach na'r Goruchaf, yn gwrando.

Yr oedd yn wael yn awr ers pedair blynedd ac yn methu â dilyn ei orchwylion ar yr ystad. Pan oedd yn iach ni welsai lawer ar ei dad, ond dug ei segurdod hwy'n nes at ei gilydd. Gynt, am y gwinwydd neu'r olewydd y siaradent neu am bobl a phethau'r pentref, ond yn awr yn y rhòl a ddarllenai neu'r gerdd a luniai y ceisiai ennyn diddordeb ei dad. A sylweddolai Othniel yn fwyfwy bob dydd nad oedd ei dad yn feddyliwr o gwbl; pan ofynnai pwnc yr ymddiddan am ryw gymaint o wybodaeth neu ddychymyg, buan yr âi'n fudandod rhyngddynt. Er bod ei dad yn Sadwcead blaenllaw ac yn ŵr amlwg yng nghynghorau'r Deml, darganfu Othniel mai arwynebol oedd ei ddiddordeb yn y Gyfraith, a chasâi'r Phariseaid am