Tudalen:Yr Ogof.pdf/34

Gwirwyd y dudalen hon

eu manyldra a'u duwioldeb hwy. "Rhowch imi lonydd i fwynhau fy mywyd esmwyth a digyffro," a ddywedai'i holl natur. "Y mae'n wir i'm tad fod yn offeiriad pwysig yn y Deml ac yn ŵr defosiynol iawn. Pa waeth?

Pa waeth? Fe gasglodd gyfoeth mawr yno ac â'r cyfoeth hwnnw y prynodd yr ystad hon yn Arimathea. Wel, gedwch i minnau a'm teulu eistedd yn llawen wrth y bwrdd a arlwyodd 'ef inni. Lol yw sôn y Phariseaid am fywyd ar ôl hwn: felly, gedwch inni fwynhau'r dyddiau a'r pethau sydd gennym, gan roddi clod i Dduw amdanynt a chyflwyno cyfran dda ohonynt iddo ef yn ei Deml."

Felly, yr oedd Othniel yn sicr, y siaradai'i dad ag ef ei hun, gan ymddwyn fel petai'n ddall i gyni'r bobl ac i ormes y Rhufeinwyr. Yr oedd trethi'r Deml a threthi Rhufain yn llethu'r genedl yn lân, a phrin y gallai'r rhai tlotaf yn eu plith gadw corff ac enaid ynghyd. Ond yr oedd yn fyd braf ar Sadwcead cyfoethog. Câi ef ddegwm da o drethi'r Deml; a chwarae teg i'r Rhufeinwyr, yr oeddynt yn prynu llawer o win ac yn talu'n dda amdano. Er hynny, gwelsai Othniel bryder yn llygaid ei dad droeon, a gwyddai nad oedd mor ddifraw ag y ceisiai ymddangos: o ganol ei esmwythyd a'i foeth taflai ambell olwg anesmwyth tua'r tlodi a'r trueni o'i amgylch. A ddoe, pan ddeallodd hyd sicrwydd fod ei fab ei hun, Beniwda, yn aelod o Blaid Ryddid, oni theimlai mai ar dywod yr adeiladodd blas ei ddigonedd? Un mab yn aelod o Blaid Ryddid, y llall yn sôn byth a hefyd am sôn byth a hefyd am y Nasaread a gynhyrfai'r wlad, y ferch mewn cariad â Rhufeinwr—a oedd sylfeini'r plas yn ymddatod?

Gwelai Othniel ei dad yn awr yn syth ac urddasol ar ei gamel, fel un heb bryder yn y byd, a theimlai'n drist wrth gofio am ddoe a'i helbulon. Buasai'n gyfaill yn ogystal â thad iddynt oll, yn hynod garedig a haelionus, yn bwyllog ac eangfrydig ei gyngor, yn dawel ac amyneddgar ei ffordd. A mawr oedd ei barch yn yr ardal, yn arbennig ymhlith y tlodion, oherwydd nid âi cardotyn byth ymaith o'i ddrws yn waglaw. Ei dad oedd arwr Othniel pan oedd yn llanc: yr oedd popeth a ddywedai ac a wnâi uwchlaw beirniadaeth. Erbyn hyn, ac yn arbennig er pan aeth yn wael, gwelai ei ddiffygion, ei ddifrawder cysurus yn enwedig, cystal â neb. Er hynny, yr oedd yn flin ganddo am helyntion ddoe a'r loes a ddygasant iddo. Pam yr oedd mor chwyrn yn erbyn y