Tudalen:Yr Ogof.pdf/35

Gwirwyd y dudalen hon

Nasaread, tybed? Gallai Othniel ddeall ei fraw a'i siom o ddarganfod bod ei fab yn aelod o Blaid Ryddid, ond os ffŵl penboeth oedd y proffwyd o Galilea, pam yr ofnid ef a'i ddylanwad? A deimlai gwŷr y Deml fod eu gafael ar y bobl yn llacio? A wyddai ei dad, yn ei funudau tawelaf, fod y pethau syml a sylfaenol y safai'r Nasaread trostynt yn fwy arhosol na holl ogoniant y Deml? Tybiai Othniel iddo weld rhyw euogrwydd yn llygaid ei dad pan soniodd am yr ogof wrtho, ond efallai mai canfod rhywbeth y chwiliai amdano a wnâi. Na, ymddangosai yn awr yn y pellter yn bur ddibryder, gan farchogaeth yn hamddenol a thaflu ambell drem fodlon ar lethrau graenus y gwinwydd.

Gwenodd Othniel wrth sylwi bod llaw a phen ei fam mor huawdl â'i thafod. Marchogai hi wrth ochr ei gŵr, gan barablu pymtheg y dwsin a phwysleisio pob gair ag ystumiau cyflym. Nid oedd Othniel mor hoff o'i fam ag ydoedd o'i dad; yn wir, yn ddiweddar, ac yntau'n byw a bod yn y tŷ, tyfodd rhywbeth tebyg i elyniaeth gudd rhyngddynt. Yr oedd hi'n dalp o egni, heb fod yn llonydd am eiliad, ac er ei gwaethaf, dirmygai'r mab a eisteddai'n syn wrth y ffenestr o fore tan nos a'i lygaid mawr yn llawn breuddwydion. Ei frawd Beniwda oedd ei ffefryn hi: yr oedd ef yn debyg iddi, yn llawn bywyd anesmwyth, yn dafodrydd fel hithau, heb gysgod ar ei feddwl chwim. Heb gysgod? Ymdaflodd yn sydyn i gynlluniau Plaid Ryddid, a gwyddai pawb beth a wnâi'r Rhufeinwyr ag aelodau o'r blaid honno pan ddalient hwy. Ym mhob gwersyll yr oedd croesau'n bentwr yn erbyn y mur yn barod i hoelio rhai fel Beniwda arnynt.

Marchogai ef yn awr tu ôl i'w dad ac wrth ochr Rwth, ond sylwai Othniel na siaradai Beniwda air â'i chwaer. I Genedlaetholwr chwyrn fel ef yr oedd hi'n ddirmygus—mewn cariad â Rhufeinwr ac yn siarad Groeg byth a hefyd. Byddai'r daith i Jerwsalem yng nghwmni'i gilydd fel hyn yn anghysurus, a hiraethai Beniwda, yn sicr, am gael brysio ymlaen ei hun i gyfarfod rhai o wŷr blaenllaw Plaid Ryddid yn y brifddinas. Gwelai Othniel fod ei fam yn taflu ambell sylw tros ei hysgwydd ato, a thybiai mai ceisio'i gadw'n ddiddig yr oedd. Ond byddai hithau'n sicr o droi'n ddifeddwl at ei merch cyn hir a dweud rhywbeth mewn Groeg; âi mulni Beniwda'n gynddaredd wedyn. Ni synnai glywed, pan ddychwelent o