Tudalen:Yr Ogof.pdf/36

Gwirwyd y dudalen hon

Jerwsalem, i Beniwda ddyfeisio rhyw esgus i'w gadael hwy ar y daith ac iddo gyrraedd y ddinas ymhell o'u blaenau.

Edmygai Othniel sêl a brwdfrydedd ei frawd. Yr oedd ei syniadau braidd yn gul, efallai, a thueddai i chwilio am wendidau pawb ond aelodau o'r Blaid, ond ymgysegrai â'i holl enaid yn awr i hyrwyddo'r mudiad. Denai Plaid Ryddid ugeiniau, onid cannoedd, o wŷr ifainc penboeth fel Beniwda i'w rhengoedd, ond araf oedd ei chynnydd ymhlith gwerin y wlad, yn bennaf, oherwydd gorhyder a phendantrwydd ffyrnig ei dilynwyr. Casáu a herio popeth a wnâi Rhufain—nid oedd hynny, ym marn y bobl gyffredin, yn ddigon o sylfaen i adeiladu arni. A pha siawns a oedd gan werin dlawd yn erbyn gallu milwrol y concwerwyr? Cofient lawer galanastra yn eu tref neu bentref pan feiddiodd rhywrai wrthod talu'r dreth i Gesar—a bodlonent ar ymostwng a cheisio byw ar y nesaf peth i ddim er mwyn rhoi arian y trethi o'r neilltu. Ond câi Beniwda a'i debyg ddeunydd huodledd ac ystrywiau yn ymdrechion y Blaid, a mwyaf yn y byd y siaradent ac y cynllunient, yn wylltach beunydd y llosgai tân eu ffydd. Petai'r aelodau oll mor onest ac annibynnol â Beniwda, fe dyfai'r mudiad, yn ddi—ddadl, yn un nerthol yn y tir, ond yr oedd llawer o'r dilynwyr uchaf eu cloch yn bur barod i dderbyn y ffafrau a'r swyddi a gynigiai'r rheolwyr cyfrwys iddynt. Tawent, gyda diolch, ac yr oedd amryw ohonynt erbyn hyn yn bublicanod blonegog. Ond adwaenai Othniel ei frawd yn ddigon da i wybod na lygrid mohono ef felly.

Wrth ei ochr, yn marchogaeth fel brenhines, a'i phenwisg ysgarlad yn nofio fel baner ar y gwynt, eisteddai Rwth yn urddasol ar ei chamel, fel petai'r torfeydd a lifai i Jerwsalem yn ymgasglu yno i'w chroesawu hi. Ysgydwodd Othniel ei ben yn freuddwydiol wrth syllu arni. Aethai Rwth, ei chwaer fach, yn llances hardd mewn noswaith megis. Ymddangosai fel doe yr adeg pan ddeuai hi ambell hwyr i'w alw o'i waith yn y gwinllannoedd ac y dygai ef hi i'r tŷ'n fuddugoliaethus ar ei ysgwyddau a'u chwerthin yn llon ac uchel. Ond erbyn hyn tyfasant ar wahân.

Ie, dieithriaid oeddynt mwyach. Trigent yn yr un tŷ, chwarddent uwch yr un pethau, ymgomient am yr un cydnabod a chyfeillion, ond yr oedd gagendor rhyngddynt yn awr. Pan oedd Othniel yn iach, treuliai lawer hwyr yn yr haf a'r