Tudalen:Yr Ogof.pdf/37

Gwirwyd y dudalen hon

hydref ar y "tŵr-gwylio" yng nghanol y winllan, ar wyliadwriaeth rhag lladron. Mwynhâi unigrwydd a thawelwch y lle, ac yno y deuai rhai o'i salmau gorau i'w feddwl. Ond araf weithiau y llithrai'r amser heibio, a melys iddo ar yr adegau hynny oedd gweld Rwth yn dringo'r llechwedd tuag ato ac yn ymuno ag ef ar y tŵr. Treulient awr ddifyr yn cellwair, gan ddychmygu gweld lladron yn cloddio drwodd neu gymryd arnynt ymladd â'i gilydd neu geisio dynwared rhai o'r campau corfforol a welsent yn arena'r Rhufeinwyr un tro yng Nghesarea. Mor bell oedd y dyddiau hynny bellach! Ymddangosai pedair blynedd ei waeledd fel oes a dreuliodd ar ryw ynys leddf ac unig: a ddihangai ef byth ohoni yn ôl i sŵn chwerthin a chân a llawenydd?

Ni welsai ef lawer ar Rwth yn ystod y pedair blynedd hyn. Daethai rhyw ysfa i grwydro trosti—i Jericho, i Sora, i Gath, i Jopa, i rywle lle'r oedd perthynasau gan ei rhieni—a chrwydrodd yntau lawer i chwilio am iachâd. A phan fyddent ill dau gartref, ceisiai hi ei osgoi. Yr oedd gwendid corff ac afiechyd yn rhywbeth tu allan i fyd Rwth, yn ddieithrwch y dihangai'n ddychrynedig rhagddo. Yr oedd ei hoen a'i hynni'n ddihysbydd, fel egni anifail chwim, ysgafndroed; ond pan ddeuai hi i'w gwmni ef, yr oedd bellach yn ansicr a ffwndrus, fel petai'n ddyletswydd arni i ffrwyno'i hasbri yn ei ŵydd; yn wir, fel petai hi'n euog o'i blegid. Yr oedd ei chwerthin yn rhy sydyn ac eiddgar i fod yn naturiol, a chwiliai'n rhy ddyfal am rywbeth diddorol i'w ddweud. Cawsai ei rhybuddio, yn amlwg, i ymddwyn yn ddifraw, i beidio ar un cyfrif ag ymddangos yn dosturiol, i fod yn llon fel cynt yn ei gwmni, ond gwyddai Othniel fod yr ymdrech yn dreth arni ac y dyheai am ddianc yn ôl i ryddid dilestair ymhlith eraill.

Teimlai yntau'n annifyr yn ei chwmni, yr oedd yn rhaid iddo gyfaddef. Gynt, pinsio'i chlust a thynnu'i gwallt a ffug ymladd â hi a wnâi, a mawr oedd eu stŵr. "Nid yw'r ddau yna'n hanner call," fyddai sylw'i dad yn aml wrth glywed eu sŵn yn y berllan neu yn y tŷ. Ni allai gofio un egwyl o ymgomio neu ddadlau â hi yn y dyddiau hynny: pa le bynnag y cyfarfyddent, cymryd arnynt ymgiprys a wnaent bob gafael. Erbyn hyn yr oedd ef yn ddyn sâl, a gwthiodd ei wendid ef i fyd myfyr a dychymyg ac atgof. Ni wyddai ac ni phoenai Rwth am y byd hwnnw yn wir, prin y meddyliai am ddim ond am ei gwallt a'i dwylo a'i gwisg, er nad oedd fawr neb yn