Tudalen:Yr Ogof.pdf/38

Gwirwyd y dudalen hon

Arimathea i'w hedmygu. Am fân ddigwyddiadau ym mywyd y pentref y siaradent, a châi yntau hi'n anodd weithiau i dynnu'i feddwl oddi wrth ei fyfyrdodau a'i farddoni at y pethau hyn. Dôi geiriau i'w dafod a gwên i'w lygaid, ond daliai canol ei feddwl i fyfyrio o hyd.

Pam yr oedd y Rhufeinwr Longinus mor hoff o Rwth, tybed? Ai ei hwyneb tlws a'i chorff lluniaidd a'i denai? Efallai, yn wir. Ond a oedd ef yn hoff ohoni? Pan ddeuai ar wib i Arimathea, yn ymgomio ag ef, Othniel, y treuliai'r rhan fwyaf o'i amser, gan fwynhau sgwrs am ddeialogau'r athronydd Groegaidd Plato. Siaradai fel un a sychedai am ymgom felly, fel petai wedi syrffedu'n lân ar sylwadau'i gyd-filwyr ar win a merched a brwydrau ac yn llawenhau drwyddo yng nghwmni enaid cytûn. Casâi Rwth y seiadau hyn aent â Longinus oddi arni, ac yntau wedi dod bob cam o Jopa i'w gweld. Edrychai'n gas ar ei brawd, ac ni siaradai air ag ef am oriau ar ôl un ohonynt. Ond chwarae teg, nid arno ef yr oedd y bai. Er mor felys oedd y sgwrs iddo, gwnâi bob esgus i geisio ymddeol ohoni, gan gymryd arno fod yn flinedig neu'n ddi-hwyl er mwyn i Longinus fynd â Rwth allan am dro. Ond buan y dychwelent ac yr ailgydiai'r Rhufeinwr yn y ddadl neu'r ddamcaniaeth. Nid tipyn o ganwriad ym myddin Rhufain a ddylai'r gŵr ifanc meddylgar a breuddwydiol hwn fod, a cheisiodd Othniel droeon ddarganfod pam y dewisodd fod yn filwr. Yr oedd fel hogyn yng nghwmni Rwth, yn cellwair a chwerthin yn wastadol, ond gwelsai Othniel ambell gysgod sydyn yn ei lygaid. Ai ceisio anghofio rhywun neu rywbeth yr oedd?

Tu ôl i Rwth, ar asyn fel y gweddai i gaethferch, marchogai Alys, ac wrth ei hochr hi, yr hen Elihu. Syllodd Othniel yn hir ar Alys yn ei gŵn gwyn a'i phenwisg o las golau. Ni welai hi eto am wythnos gyfan, a byddai ei fyd yn wag hebddi. Cofiai'r diwrnod cyntaf hwnnw, ddeufis yn ôl pan ddug Longinus y ferch o Roeges atynt. Wrth groesi o Rufain i Jopa, daliesid y llong y teithiai ef ynddi mewn storm enbyd un nos, ac yn y bore, pan dawelodd y môr, gwelodd un o'r llongwyr ddarn mawr o bren yn nofio tuag atynt. Syllodd yn bryderus arno, gan ofni yr hyrddiai'r tonnau ef yn erbyn y llong, ac yna sylweddolodd fod rhywun yn hongian wrtho. Rhuthrodd yn gyffrous i flaen y llong, gan alw am gymorth ei gyd-forwyr i daflu rhaff dros y bwrdd. Heb oedi ennyd,