Tudalen:Yr Ogof.pdf/39

Gwirwyd y dudalen hon

clymodd Longinus y rhaff am ei ganol a neidiodd i'r môr. Trawodd y pren yn erbyn y llong a thaflwyd y ferch oddi arno. Yn ffodus, i gyfeiriad Longinus y lluchiwyd hi, a buan ei fraich amdani a'r ddau'n cael eu codi i ddiogelwch y llong; Pan ddaeth yr eneth ati'i hun ac adrodd ei stori, yr oedd dagrau yn llygaid hyd yn oed hen gapten gerwin y Livia. Croesai Alys a'i rhieni o Athen i Gesarea: cawsent air fod ei brawd Melas, a oedd yno ar fusnes, wedi'i daflu i garchar gan y Rhufeinwyr. Holltodd eu llong yn ddwy yn rhyferthwy'r ystorm, a hyd y gwyddai, hi yn unig a ddihangodd yn fyw.

Cyrhaeddwyd Jopa cyn hir, ac ni wyddai neb beth yn y byd i'w wneud â'r Roeges fach. Cynigiodd yr hen gapten, a fwriadai alw yn Athen ar ei ffordd i Rufain, ei chludo'n ôl yn rhad ac am ddim, ond ni allai hi feddwl am ddychwelyd i wacter oer ei chartref. Wylai'n hidl wrth ei dychmygu'i hun yno heb ei thad a'i mam. Yr oedd ei chwaer fach Diana newydd farw o'r pla, ei rhieni yng ngwaelod y môr, ei brawd mewn cell Rufeinig—torrai'i chalon mewn anobaith llwyr. Cofiodd Longinus am deulu Rwth yn Arimathea, a dug hi yno, gan erfyn arnynt ei chymryd fel caethferch.

Gwelai Othniel hi'n sefyll o'u blaenau eto fel y gwnaethai y diwrnod cyntaf hwnnw â'i llygaid yn llawn ofn.

Pan edrychodd ef i mewn i'r llygaid rhyfeddol hynny, ni ddeallai sut y gallai ei fam wrthsefyll eu hapêl. Na, meddai hi wrth y Rhufeinwr, nid oedd arnynt eisiau caethferch arall, ond efallai y carai'r hen Joctan, eu cymydog, ei chael. Cododd holl natur Othniel mewn gwrthryfel: ni châi'r ferch hon fynd at yr hen gybydd blin Joctan. Gwyddai mor hoff oedd ei fam o rodresa tipyn drwy siarad Groeg ac o sôn, yng nghwmni dieithriaid yn arbennig, am yr ychydig wythnosau a dreuliasai unwaith yn Athen. Taflodd winc ar Longinus. "O Athen y daw'r ferch hon, 'Mam," meddai, "a chewch holl hanes y lle ganddi—a gwybod am y ffasiynau diweddaraf yno." Yr oedd y ddadl yn ddigon.

Yna, rai dyddiau wedyn, bu'r helynt â Rwth.

Eisteddai Othniel un prynhawn yn ei hoff fan wrth y ffrwd yng nghwr pellaf y berllan. Teimlai'n swrth, a llithrodd y rhòl a darllenai o'i ddwylo i'r llawr. Yr oedd hanner y ffordd i fro cwsg pan glywodd sŵn rhywun yn beichio wylo. Gŵyrodd ymlaen i edrych heibio i foncyff y ffigysbren a oedd rhyngddo a'r sŵn; gerllaw, a'i holl gorff yn cael ei ysgwyd gan