Tudalen:Yr Ogof.pdf/40

Gwirwyd y dudalen hon

ei thrallod, pwysai'r Roeges fach yn erbyn coeden, yn torri'i chalon yn lân. Tawelodd yr wylo cyn hir a throi'n riddfan isel dwfn a oedd yn dristach fyth. Llithrodd i'r llawr gan gydio'n ffwndrus yn y glaswellt a'r dail gwywedig, a'u dal yn ei dwylo gan syllu'n orffwyll arnynt. Gwelodd Othniel hi'n cusanu un ddeilen fechan ac yn sisial rhywbeth yn floesg wrthi. Gwrandawodd yn astud, ond ni chlywai'r geiriau. Yna daeth y beichio wylo drachefn ac wedyn y griddfan torcalonnus.

"Alys!"

Troes ei phen mewn braw: ni wyddai fod neb yn dyst o'i galar. Sychodd ei dagrau'n frysiog a daeth ato: ymddangosai fel rhyw anifail eiddil, dychrynedig.

"Beth sydd, Alys?"

"Dim byd, Syr."

"Dim byd?" "Dim ond . . . dim ond hiraeth am fy nhad a'm mam." "Efallai eu bod hwy'n ddiogel yn rhywle, Alys, fel chwithau."

"Nac ydynt, Syr. Gwelais don fawr yn eu hysgubo gyda'i gilydd i'r môr." Rhoes ei llaw ar ei llygaid, fel pe i'w cuddio rhag yr atgof.

"Ond yr oedd hi'n nos."

"Yr oedd y wawr yn dechrau torri, Syr. Gwaeddodd y Capten fod y gwaethaf drosodd a bod y gwynt yn dechrau troi i'r deau. Ond yr oedd y tonnau o hyd fel bleiddiaid o gwmpas y llong, yn neidio arni mewn cynddaredd, fel pe i geisio'i llarpio. Yn ystod y nos ysgubwyd tri o'r llongwyr ac amryw o'r teithwyr a phob anifail a oedd ar y bwrdd—cludo anifeiliaid i Gesarea yr oedd y llong, Syr—i'r môr, a rhwygwyd yr hwyliau'n gyrbibion. Yr oedd y llyw hefyd yn ddiwerth erbyn hyn a'r llong mor ddiymadferth â darn o bren. Trueni inni deithio arni. Nid oedd hi'n gymwys i ddim ond i'w thorri'n danwydd."

"Rhy hen i'r môr?"

"Yr oedd rhannau o'r dec yn pydru, a thrwy'r nos disgwyliem glywed sŵn y llong yn hollti'n ddwy oddi tanom. Yna, wedi i'r Capten weiddi bod y storm yn llacio a'r gwynt yn symud i'r deau, syrthiodd ton anferth, mynydd o ddŵr gwyrdd.. Rhoes ei llaw tros ei llygaid eto.

"Na, peidiwch â dweud rhagor: ceisio anghofio yw'r peth gorau i chwi."