Tudalen:Yr Ogof.pdf/41

Gwirwyd y dudalen hon

"Yr oeddym ein tri gyda'n gilydd, Syr, yn gafael am ein bywyd mewn rhyw hen angor haearn. Clywais hwy'n gweiddi a medrais agor fy llygaid i weld y llifeiriant yn eu hysgubo dros y bwrdd. Yr oedd yr hen long ar ei hochr a charpiau'r hwyliau bron â chyffwrdd y dŵr. Ymsythodd y llong eto ymhen ennyd, ac yna rhuthrodd mynydd arall."

Daeth llais Rwth o gyfeiriad y tŷ yr oedd yn amlwg ei bod hi'n wyllt am rywbeth. "Mi fyddaf yn rhoi gorchymyn i Elisabeth," meddai—Elisabeth oedd y brif forwyn—"i'w chwipio hi nes bydd hi'n gwaedu. Fy ngwisg newydd i!"' Gan mai yn Aramaeg y siaradai Rwth, ni ddeallai Alys y geiriau.

"Y mae fy chwaer Rwth yn bygwth chwipio rhywun," meddai Othniel. "Chwi, efallai? Beth a ddigwyddodd i'r wisg?"

Torrodd y Roeges i wylo eto.

"Dwyn cwpanaid o win i'ch mam yr oeddwn i," meddai cyn hir "I'r oruwch-ystafell. Ac mi lithrais ar y grisiau pan oedd eich chwaer yn brysio heibio imi. Collais beth o'r gwin ar ei gwisg."

"Y mae'r grisiau'n gul. Lle Rwth oedd aros nes i chwi gyrraedd eu pen. Peidiwch â phoeni: mi gaf fi air â hi."

"O, diolch, Syr. 'Wn i ddim beth a wnawn i petawn i'n cael fy ngyrru oddi yma. Nid oes gennyf arian i fynd yn ôl i Athen, a phed awn yn ôl, gwn y torrwn fy nghalon yno heb fy nhad a'm mam.'

"Y mae Rwth yn ifanc, Alys—a thipyn yn wyllt, efallai. Ond mae'i chalon hi'n iawn, er ei bod hi'n ymddangos mor ddideimlad. Ni synnwn i ddim ei gweld hi'n rhoi'r wisg 'na i chwi—fel arwydd o'i hedifeirwch!"

Gwenodd y Roeges drwy'i dagrau, ac yna plygodd i godi'r rhòl a oedd wrth draed Othniel.

"Hesiod!" meddai wrth ei throsglwyddo iddo.

Agorodd llygaid Othniel mewn syndod.

"Ef oedd hoff fardd fy nhad," chwanegodd y ferch, gan wylo'n dawel.

"Ond . . . ond sut y gwyddech chwi mai gwaith Hesiod oedd hwn?" gofynnodd Othniel.

"Eich gweld chwi'n ei ddarllen yn y tŷ y bore 'ma a wnes i, Syr. A gynnau, pan gariodd y gweision chwi yma i'r berllan, gadawsoch y rhòl ar y fainc."